Mae gennym gyfle gwych i unigolyn eithriadol weithio ochr yn ochr â’n Prif Swyddog Gweithredol a’n tîm Gweithredol, gan ddarparu cymorth a rheolaeth weithredol o’r radd flaenaf.   

Bydd y swydd amrywiol hon, sydd wedi’i hail-lunio, yn canolbwyntio ar helpu i wella ein gwaith monitro perfformiad, gan sicrhau bod gennym y prosesau a’r systemau casglu data cywir ar waith i gefnogi ein blaenoriaethau cyflawni. Byddwch yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o hyrwyddo ein hintegreiddio digidol a systemau, gan symleiddio, gwella a chysoni ein systemau corfforaethol.

Byddwch hefyd yn hyderus yn adolygu a drafftio dogfennau manwl a chymhleth ar ran ein Prif Swyddog Gweithredol ac yn eu troi’n gyflwyniadau, areithiau neu adroddiadau grymus ar gyfer cynulleidfaoedd priodol. Bydd sicrhau bod ein Tîm Gweithredol yn cael cymorth llawn hefyd yn rhan o’ch rôl o ddydd i ddydd.

Bydd gennych sgiliau rheoli rhanddeiliaid a meithrin cysylltiadau credadwy; oherwydd y bydd y swydd hon yn ganolbwynt ar ran ein Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer partneriaid allanol fel y GIG a Llywodraeth Cymru, ac yn fewnol hefyd, byddwch yn gweithio ar bob lefel ar draws ein tîm bach, ond blaengar. Bydd ein gwerthoedd sefydliadol o fod yn Angerddol, Cydweithredol, Arbenigol a Phroffesiynol yn wirioneddol weladwy yn eich ymddygiad eich hun ac ym mhopeth a wnewch.

Oherwydd y byddwch yn cydbwyso gwahanol flaenoriaethau yn y swydd hon, bydd angen i chi ddefnyddio eich sgiliau rheoli prosiectau a threfnu cryf; gweithredu fel aelod da o dîm a bod yn gyfarwydd â sicrhau cyfrinachedd a thrin gwybodaeth sensitif – bydd hyn i gyd yn ail natur i chi.  Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda’n penaethiaid adran sy’n gyfrifol am gyflawni ein blaenoriaethau strategol yn eu meysydd portffolio.   

I weld holl fanylion y swydd hon, darllenwch y swydd ddisgrifiad.

Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?

  • Ymunwch â ni er mwyn bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar  
  • Diwylliant gwaith cynhwysol a hyblyg  
  • Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd
  • Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol         
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 9% gan y cyflogwr  

Gwnewch gais nawr!

Anfonwch neges e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda ffurflen cyfle cyfartal wedi’i llenwi, eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen A4 o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon, a pham eich bod yn credu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.

Rhaid i’ch cais cyflawn ein cyrraedd ni erbyn 4pm, ddydd Mercher 11 Mehefin 2025.

Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 26 Mehefin 2025.

Os hoffech chi gael sgwrs gychwynnol anffurfiol i ddysgu rhagor am y swydd hon, cysylltwch â Cari-Anne Quinn, y Prif Swyddog Gweithredol, ar cari-anne.quinn@lshubwales.com