Gwybodaeth am y rôl

Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Cynadleddau profiadol i ymuno â'n tîm cyfathrebu yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Bydd y Rheolwr Cynadleddau yn gyfrifol am ein cynadleddau blynyddol, sy'n cynnwys Iechyd Yfory a Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau deuddydd gyda chynulleidfaoedd o fwy na 500 o gynadleddwyr. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio a chyflwyno rhaglenni cynhwysfawr tra'n sicrhau bod refeniw o arddangosfeydd a nawdd ar gael i'w hariannu.

Fel rôl newydd, bydd y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau penodol yn datblygu'n organig yn y tymor byr. Bydd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a deiliad y swydd yn cytuno ar swydd-ddisgrifiad terfynol ar adeg briodol. Lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad llawn.

Buddion

  • Amgylchedd gwaith a thîm gwych
  • Gwyliau hael – 30 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus
  • Wythnos 37.5 awr ar gyfer holl aelodau amser llawn y tîm
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a gofal llygaid
  • Parcio car (yn ôl disgresiwn)
  • Oriau Hyblyg
  • Pensiwn

Sut mae gwneud cais

I wneud cais, anfonwch CV cynhwysfawr gyda’ch cymwysterau addysgol a phroffesiynol, eich hanes cyflogaeth llawn a’ch cyflog ar hyn o bryd, ynghyd â datganiad ategol.

Ni ddylai'r datganiad ategol fod yn fwy na dwy ochr A4. Dylech ddarparu tystiolaeth yn eich datganiad am eich addasrwydd yn erbyn y meini prawf ym Manyleb y Person a dylech egluro pam mae gennych chi ddiddordeb yn y swydd, a ble gwelsoch chi’r hysbyseb swydd.

Dylid cyflwyno ceisiadau i careers@lshubwales.com.

  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: 12:00, dydd Llun, 30 Mawrth 2020
  • Y Diwrnod Asesu: Dydd Mercher, 8 Ebrill 2020

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd edrychwch ar y swydd ddisgrifiad llawn isod: