Hyd: 6 mis (dyddiad dechrau 01/01/2021)

Partneriad: Gwasanaethau Amgylcheddol Veolia, Innotech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd.

Nod Y Prosiect: Newid ymddygiad staff drwy ddangos effaith ymddygiad ailgylchu gwell

Theatre waste recycling.

Mae'r GIG yn cynhyrchu hyd at 600,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn, ac mae tua 85% o'r gwastraff hwn yn cael ei ystyried yn wastraff and yw'n beryglus. Er bod modd ailgylchu llawer o'r gwastraff hwn, mae swm sylweddol yn dal i gael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn cynhyrchu dros 2,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn, gyda theatrau llawdriniaeth a labordai patholeg yr ardaloedd yn cynhyrchu'r nifer fwyaf. Rhan sylweddol o'r gwastraff hwn yw pecynnu defnyddiau traul sy'n cael eu defnyddio fel mater o drefn ar sail un claf.

Er bod yn rhaid i wastraff gofal iechyd gael ei gategoreiddio, ei wahanu a'I brosesu yn unol â'r ffrwd rheoli gwastraff briodol, gellid gwella arferion rheoli gwastraff a chyfathrebu arferion perthnasol. Er enghraifft, dargyfeirio gwastraff penodol o safleoedd llosgi a thirlenwi i ailgylchu, arbed arian a lleihau carbon.

Mae'r prosiect cydweithredol hwn rhwng academyddion Prifysgol Caerdydd. Gwasanaethau Amgylcheddol Veolia, Innotech a BIPCTM yn ceisio archwilio llwybrau ar gyfer cynhyrchu deunyddiau newydd o'r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi yn draddodiadol, gan hwyluso ymddygiad gwell ymysg staff tuag at ailgylchu mewn sefyllfa glinigol.

Mae Accelerate yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect hwn drwy brofiad Prifysgol Caerdydd o gasglu data, gwerthuso a rheoli prosiectau'n drylwyr. Bydd hyn yn gweithio ochr yn ochr â darpariaeth y bwrdd iechyd o amgylcheddau clinigol a mewnbwn staff sydd ei angen i weithredu protocolau a hyfforddiant newydd. Bydd partneriaid diwydiannol yn cyfrannu arbenigedd gwerthfawr mewn ffrydiau rheoli gwastraff a datblygiadau ailgylchu, a gyda'i gilydd bydd y bartneriaeth hon yn gweithio tuag at hyrwyddo arferion mwy cynaliadwy o fewn GIG Cymru.

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Protocolau biniau ailgylchu newydd sy'n bodloni safonau clinigol priodol
  • Newid ymddygiad o ran arferion ailgylchu staff
  • Prosesau gwell ar gyfer rheoli gwastraff
  • Gwell cyfathrebu ynghylch prosesau ailgylchu priodol
  • Arbedion cost drwy ailgylchu mwy
  • Canlyniadau gwerthusiad academaidd
  • Newidiadau caffael i hwyluso prynu mwy o gynnyrch y gellir ei ailgylchu
  • Astudiaethau achos a chyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid
  • Cyflwyno gwaith yn y dyfodol

Effaith Yn Y Dyfodol

  • Ôl troed carbon is i'r bwrdd iechyd
  • Cyfleoedd i bartneriaid prosiect gydweithio ymhellach
  • Model y gellir ei gyflwyno ar draws GIG Cymru, gan sicrhau arbedion cost, ymgysylltu â staff, rheoli gwastraff yn well ac arferion caffael gwyrddach
  • Cyfraniad sylweddol at helpu i sicrhau 'Cymru Iachach' a 'Chymru Gynaliadwy’

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Accelerate@cardiff.ac.uk

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner