Mae prosiect peilot digidol arloesol a lansiwyd gan dîm y fferyllfa yn ysbyty Wrecsam Maelor yn helpu i ganfod cyflyrau ar yr arennau sy’n peryglu bywyd ac achub bywydau cleifion. 

doctor in background pointing at kidneys in the foreground

Yr her 

Dros gyfnod y gaeaf yn 2021, roedd Ysbyty Maelor Wrecsam , ysbyty cyffredinol dosbarth mawr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn gweld nifer fawr o gleifion yn dioddef o Anaf Aciwt i’r Arennau (AKI) yn ei adran achosion brys.  

Yn amrywio o golli ychydig ar weithrediad yr arennau i fethiant llwyr yr arennau, mae AKI yn broblem gyffredin ond yn broblem sy’n gallu bod yn ddifrifol ac mae gofyn am ddiagnosis a thriniaeth gyflym. Mae’r cyflwr yn gysylltiedig â chyfraddau marwolaeth uchel, gyda mwy nag un rhan o bump o gleifion yn marw yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty a’r gweddill mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig ar yr arennau a gorfod aros yn hwy yn yr ysbyty. 

Mae canfod cynnar yn hanfodol er mwyn atal cymhlethdodau difrifol a gwella’r canlyniadau i gleifion sydd ag AKI. Mae angen i gleifion gael eu hadnabod a’u hasesu’n gyflym gan fferyllydd, a fydd yn adolygu eu meddyginiaethau ac yn lleihau neu’n rhoi terfyn ar unrhyw beth a all waethygu’r broblem, fel cyffuriau neffrotocsig sy’n niweidiol i’r arennau.  

Fodd bynnag, fel adran achosion brys hynod brysur, a oedd yn dioddef o bwysau’r gaeaf, prinder gwelyau a llai o staff ar y pryd, roedd Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam Maelor yn gweld oedi cyn i gleifion gael ymyrraeth gan fferyllwyr a sylw meddygol.  

Heb system i adnabod yn hawdd y rhai sy’n dioddef o AKI, roedd fferyllwyr yn yr ysbyty’n gorfod gweithio’u ffordd o gwmpas yr adran achosion brys gan ddarllen adroddiadau cleifion unigol i ganfod pa gleifion yr oedd mwyaf o angen rhoi sylw iddynt. Gyda manylion mwy nag 80 o gleifion i fynd drwyddynt, nid oedd yn bosibl gweld yr holl gleifion mewn diwrnod, gan ychwanegu oedi cyn iddynt gael eu gweld. 

Yr ateb 

Gan nad oedd adnoddau ychwanegol ar gael i helpu i leddfu’r pwysau, roedd Sheila Doyle, fferyllydd arweiniol yn adran achosion brys Wrecsam Maelor, am ddod o hyd i ffordd i fferyllwyr ddidoli cleifion AKI posibl gan ddefnyddio canlyniadau gwaed. Cafodd wybod am feddalwedd o’r enw Information Reporting Intelligence System (IRIS) sydd, wrth ei chysylltu â chanlyniadau gwaed cleifion o bob cwr o Gymru, yn caniatáu i ddefnyddwyr eu didoli gan ddefnyddio amrywiol farcwyr diagnostig.  

Penderfynodd Sheila dreialu defnyddio IRIS i ddidoli canlyniadau gwaed yn ôl y rhai a oedd yn dangos dangosyddion AKI, gan alluogi’r tîm i weld yr holl gleifion AKI a dderbyniwyd i adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty mewn amser real.  

Roedd defnyddio’r system hon ochr yn ochr â Symphony, y system rheoli cleifion electronig a ddefnyddir mewn adrannau brys, yn caniatáu i fferyllwyr gynhyrchu e-adroddiadau dyddiol i ddod o hyd i gleifion AKI er mwyn iddynt gael eu hadolygu’n gyflym gan fferyllwyr. Roedd hyn yn golygu y gallent yn hawdd wybod pwy oedd angen cael eu gweld fel blaenoriaeth bob dydd, gan ganiatáu i feddyginiaethau a allai fod yn niweidiol gael eu hadolygu’n gyflym a’u hatal. 

Y canlyniadau 

Arweiniodd yr astudiaeth beilot at fanteision sylweddol o ran diogelwch cleifion mewn adran achosion brys sydd dan bwysau a heb ddigon o adnoddau. Roedd defnyddio meddalwedd IRIS yn sicrhau bod cleifion AKI yn cael triniaeth amserol, gan leihau niwed yn gysylltiedig â meddyginiaeth ynghlwm wrth ddiagnosis lle ceir cyfraddau uchel o forbidrwydd y gellir ei atal. 

Yn ystod y peilot 19 diwrnod, adolygwyd 50 o gleifion gan fferyllwyr, gyda 74% ohonynt angen ymyrraeth gan fferyllwyr i atal difrod AKI sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth. Roedd angen cyfanswm o 46 o ymyriadau, a oedd yn cynnwys atal y defnydd o 35 neffrodocsin a allai fod wedi arwain at niwed fel arall. Roedd y treial hefyd yn galluogi fferyllwyr i ganfod AKI mewn achosion lle’r oedd wedi’i fethu’n flaenorol neu heb gael ei ddiagnosio, gan wella profiadau cleifion ymhellach tra’n rhyddhau meddygon dan bwysau i weithio ar ofynion eraill. 

Gwnaethpwyd arbedion cost sylweddol hefyd drwy’r cynllun peilot, wrth i gleifion aros yn yr ysbyty am gyfnodau byrrach yn sgil gallu rhoi’r meddyginiaethau mwyaf addas iddynt yn gyflym. Amcangyfrifwyd bod y gost gyfartalog a gâi ei hosgoi am un diwrnod yn unig yn £4,803, arian y gellid ei ail-fuddsoddi yng nghyllidebau’r GIG. Ar yr un pryd, mae’r arosiadau byrrach yn yr ysbyty wedi helpu i ryddhau gwelyau y mae mawr eu hangen ar gyfer cleifion ag anghenion eraill.  

Dywedodd Sheila:

“Cyn y prosiect hwn, nid oedd gan fferyllwyr fynediad at feddalwedd IRIS felly nid oedd llawer o ymwybyddiaeth o’i swyddogaeth a’i gallu i gynhyrchu adroddiadau AKI. Mae defnyddio’r arf hwn wedi trawsnewid pa mor gyflym rydyn ni’n darparu triniaeth i gleifion AKI.  

“O’r blaen, gallai gymryd dau neu dri diwrnod iddynt gael eu hasesu gan fferyllydd, ond mae’r dechnoleg hon yn golygu y gellir eu gweld yn awr o fewn 24 awr. Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos sut gall mabwysiadu TG a digideiddio gynyddu’r gofal rydym yn ei ddarparu i gleifion yn sylweddol drwy adnabod a blaenoriaethu’n hawdd.” 

Yn dilyn llwyddiant y peilot, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn gobeithio cynyddu’r defnydd o feddalwedd IRIS y tu hwnt i adrannau achosion brys i wardiau eraill ar draws Wrecsam. Ar ôl ei datblygu’n llawn, y bwriad yw rhoi’r dechnoleg ar waith ar draws y bwrdd iechyd a chael clinigwyr eraill i gymryd rhan. 

Ychwanegodd Sheila:

“Mae ein cynllun peilot wedi tynnu sylw at y posibiliadau i’r GIG leihau gwariant a niwed sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau drwy harneisio sgiliau fferyllwyr. Mae i’r math hwn o flaenoriaethu IRIS gan fferyllwyr y potensial i gael ei gyflwyno’n genedlaethol. Gallai fferyllwyr ei ddefnyddio mewn ymarfer bob dydd a gellid ei ehangu i gynnwys cyflyrau risg uchel eraill fel sepsis. Mae cyfle enfawr i roi hyn ar waith ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac, yn wir, Cymru lle gallai llawer mwy o gleifion elwa.” 

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â’r Fferyllydd Arweiniol Meddygol, Sheila Doyle:  sheila.doyle@wales.nhs.uk