Trydydd parti

Mae'r Hive yn ardal staff aml-swyddogaeth, sydd â lle pwrpasol i ymlacio, cydweithio a rhwydweithio yng nghanol Ysbyty Athrofaol Cymru. Cafodd ei datblygu gan Dîm Arloesi’r Bwrdd Iechyd mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Camerados a Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gref gan yr Arweinwyr Gweithredol. 

CAVHB The Hive

Nodau’r Prosiect:

Nod yr ardal yw hybu gweithlu egnïol, brwdfrydig ac iach drwy greu lle sy’n cefnogi cydweithio ac sy’n canolbwyntio ar les meddyliol, sgyrsiau cefnogol ac ymgysylltu â'r staff. Mae hefyd yn hyrwyddo’r Cynllun Pobl a Diwylliant sy’n ceisio denu, recriwtio a dal gafael ar weithwyr.

Dechrau’r prosiect:

Ym mis Mawrth 2022, llwyddodd y Tîm Arloesi i sicrhau £35k gan Lywodraeth Cymru i greu Gofod Gwrthdrawiad Arloesi yng Nghaerdydd a’r Fro. Daeth yn amlwg ar ôl cysylltu â gweithlu’r bwrdd iechyd mai un o’r blaenoriaethau i’r staff oedd ei fod yn rhywle canolog. Felly, cafodd pabell fawr yng nghanol Ysbyty Athrofaol Cymru (a arferai gael ei defnyddio fel lloches i staff) ei hail-bwrpasu a’i datblygu.

Heriau’r prosiect:

Yr her fwyaf oedd dod o hyd i’r lleoliad cywir ar gyfer ymgysylltu â staff a hygyrchedd. Ar ôl sicrhau hyn gyda chefnogaeth y tîm gweithredol, roeddem yn gallu defnyddio’r cyllid i roi’r dechnoleg ar waith a chreu’r amgylchedd angenrheidiol.

Bu’n rhaid siarad â’n gweithlu, i benderfynu beth oedd ei angen arnynt a beth oedd y capasiti i ddarparu hynny. Arweiniodd hyn at nifer o newidiadau i’r cynlluniau gwreiddiol, fel newid o gael y tîm Gwella i gefnogi’r lle yn gorfforol, i amgylchedd mwy hamddenol i staff gyfarfod, bwyta ac ymlacio.

Canlyniadau’r prosiect:

  • Mae tair ardal yn yr Hive; sef Ystafell Fyw Gyhoeddus Camerados, man cydweithio y gellir ei archebu ac sydd â sgriniau rhyngweithiol ar gyfer hyfforddiant a chyfarfodydd grŵp, a lle cyffredinol i staff rannu cinio a chynnal cyfarfodydd anffurfiol.
  • Bu’r prosiect yn boblogaidd gyda’n gweithlu, daeth dros 9000 o bobl yno fis Hydref y llynedd.
  • Caiff ei ddefnyddio gan drawstoriad o staff o’r ysbyty, gan gynnwys meddygon, nyrsys a staff arbenigol. 

Mae’r adborth ansoddol a gasglwyd wedi cadarnhau llawer o fanteision, fel y canlynol:

  • Soniodd llawer am yr agwedd gymunedol ar y gofod, gan ddweud eu bod yn mwynhau cymysgu â staff na fyddent fel arfer yn croesi llwybrau gyda nhw.
  • Mae’r lleoliad wedi bod yn allweddol i’r staff gan ei fod draw oddi wrth y cleifion. Mae’n sefyll ychydig yn ôl, nodir yn glir ar gyfer staff yn unig y mae, a dywedodd staff fod hyn yn golygu eu bod yn cael cyfle i siarad a chymdeithasu’n fwy rhydd heb feirniadaeth gan y cyhoedd.
  • Roedd edrychiad y lle yn bwysig i ddefnyddwyr. Roedd llawer o’r farn fod defnyddio soffas, llyfrgell, gemau a chynllun ystafell fyw yn golygu nad oedd yn edrych fel lleoliad clinigol, felly roedden nhw’n teimlo’n braf iawn. Roedd yn mynd â nhw ‘allan’ o amgylchedd straen yr ysbyty.

"Mae’r Hive yn darparu’r ardal berffaith i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddod at ei gilydd. Rydym wedi ymweld ddwywaith, ac ar y ddau achlysur roedd yn fwrlwm o weithgarwch. Hefyd, fel partner cydweithio allanol, cawsom gyfle gwych i gwrdd ag uwch staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ond y tu allan i’r swyddfa ffurfiol draddodiadol." – Staff Dienw 

"Mae’r Hive hefyd yn darparu’r lle perffaith i gynnal digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd rhwydwaith ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Er enghraifft, byddem yn fodlon cyflwyno sesiynau creu syniadau hwyliog a ysgafn yn yr Hive i helpu i gyflawni amcanion strategol arloesi a gwella." - Staff Dienw 

"Gwych oedd gweld y tîm yn troi gofod a arferai fod yn angenrheidiol ar gyfer COVID yn ganolfan liwgar lle gall staff, ymwelwyr a busnesau gwrdd am ginio, coffi neu gynnal cyfarfodydd." - Staff Dienw 

Cyllid ar gyfer y prosiect:

  • Llywodraeth Cymru 35k 
  • Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro 5k

Tîm prosiect a phartneriaid

  • Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
  • Camerados 
  • Llywodraeth Cymru

Y camau nesaf:

Mae’r prosiect wedi bod yn ddylanwadol iawn yn genedlaethol ac mae bellach yn cael ei ystyried gan Fwrdd Iechyd Powys a gan Hywel Dda. 

Mae Caerdydd a’r Fro yn awyddus i greu lleoedd tebyg yn ein hysbytai eraill, gydag ardal wrthi'n cael ei hystyried yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Dargonfod mwy: Yr Hive

Partners logos