Mae Mikoshi wedi datblygu gêm fideo sy'n seiliedig ar ymyrraeth seicolegol sy'n ymgorffori sgiliau therapi derbyn ac ymrwymiad (ACT). 

Screenshot from ACTing Minds by Mikoshi

Mae materion iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder yn broblem fyd-eang o bryder cynyddol. Yn anffodus, mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn llawer uwch na'r adnoddau dynol sydd ar gael sy'n gallu ateb y pryderon hyn. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gemau fideo difrifol wedi'u defnyddio i hyrwyddo rheoleiddio emosiynol mewn unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Er bod y strategaethau therapiwtig hyn yn arloesol, maent yn gyfyngedig o ran cwmpas triniaeth, gan ganolbwyntio'n aml ar sgiliau gwybyddol penodol, i helpu i adfer anhwylder iechyd meddwl penodol. 

Astudiaeth ddichonoldeb o gêm fideo iechyd meddwl

Cydweithiodd HTC â Mikoshi ar astudiaeth ymchwil dichonoldeb i effeithiolrwydd eu gêm fideo iechyd meddwl o'r enw ACTing Minds. Cynhyrchasant holiadur addas, ffurflen gais moesegol, recriwtio â chymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, casglu data a dadansoddi'r data holiadur.   

Cynhyrchodd y project ddata y gellir ei ddadansoddi a'i ddatblygu'n bapur ymchwil, gan ddilysu effeithiolrwydd yr app gemau fideo fel ymyrraeth seicolegol ddefnyddiol. 

Darren Edwards, Cyfarwyddwr  Cwmni, Mikoshi: 

"O ran y canlyniadau dichonoldeb, maen nhw'n addawol, gan ddangos bod cyfranogwyr wedi dysgu agweddau pwysig am ACT a sut i ymgorffori'r rhain yn eu bywydau". 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Accelerate a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.Various partner logos