Hyd y prosiect: 18 mis

Accelerate partner(s): Cultech Ltd and Prifysgol Caerdydd

Tubes in a lab

Troslowg o'r prosiect

Mae Crochtech Ltd yn gwmni o Gymru sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu atchwanegiadau maethol arloesol, yn arbennig profiotigau. Mae eu gwaith wedi arwain at gynhyrchu canfyddiadau rhagarweiniol sy’n awgrymu y gallai atchwanegiad maethol profiotig ostwng enillion pwysau, llid a dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig â deiet braster uchel gwledydd y gorllewin ac effaith ar Glefyd Alzheimer.

Mae’r canfyddiadau hyn yn ategu’r corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos cyfranogiad yr echelperfedd- ymennydd yn natblygiad Clefyd Alzheimer, ac yn awgrymu’r posibilrwydd o ddull gweithredu probiotig er mwyn atal datblygiad Clefyd Alzheimer.

Mae’r cwmni angen cymorth arbenigedd academaidd i ddilysu a throsi’r canfyddiadau cynnar hyn yn ganlyniadau ystyrlon ar hyd y biblinell dystiolaeth sydd wedi ei sbarduno tuag at astudiaethau dynol posibl.

Cyfraniad Cyflymu

Mae Cyflymu yn ategu’r gwaith o ddilysu ac ymestyn gwaith i fodel llygoden Clefyd Alzheimer newydd wedi ei fireinio, drwy ddod ag academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd at ei gilydd gyda’r tîm yn Cultech Ltd.

Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon yn galluogi asesiad manwl o effaith probiotigau ar ddilyniant Clefyd Alzheimer. Canlyniad pwysig fyddai nodi biofarcwyr plasma/carthol posibl i’w defnyddio mewn treialon clinigol dynol yn y dyfodol.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner