Mae cwmni o’r de-ddwyrain wedi datblygu ffordd arloesol o ailgylchu cyfarpar diogelu personol untro mewn ymgais i fynd i’r afael â’r domen o wastraff sy’n cael ei chynhyrchu o ganlyniad i’r pandemig.

IMAGE for illustrative purposes only. Bag shown approx. 20KGS, Block shown is 20KGS – equal to approx. 6,666 Hardshell masks. TCG (L-R) Mathew Rapson Thomas Davison-Sebry

Mae Grŵp Compaction Thermal o Gaerdydd wedi dod yn un o'r cwmnïau cyntaf yn y byd i greu dyfais er mwyn ailgylchu cyfarpar diogelu personol plastig tafladwy yn y gwraidd, sy'n ail-beiriannu 24 tunnell o wastraff polypropylen bob blwyddyn ar gyfartaledd. Yn sgil y pandemig, mae amcangyfrifon yn awgrymu bod ymddiriedolaethau ysbytai ledled Prydain wedi bod yn defnyddio 10 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol y dydd rhyngddynt, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n blastig untro, sy’n dangos graddfa'r broblem. 

Mae’r cwmni’n hyderus y bydd ei ddyfais batent, ‘Sterimelt’, sy’n cywasgu’r polypropylen yn thermol ac yn ei ail-beiriannu fel ei fod yn addas i greu cynnyrch newydd, yn helpu i ddatrys yr her fyd-eang yma. 

Yn wreiddiol, cafodd y peiriant ei ddatblygu i ailgylchu llenni a gorchuddion hambwrdd polypropylen mewn ysbytai. Ers hynny, mae’r cwmni wedi addasu’r peiriant i ailgylchu masgiau wyneb o safon feddygol a mathau eraill o gyfarpar diogelu personol. Mae’r ddyfais yn gweithio drwy gynhesu’r plastig polypropylen mewn bwndeli 20 cilogram i dymheredd o 350°C ac yna’u cywasgu’n thermol mewn blociau petryal sy’n gallu cael eu troi’n belenni bach i greu cynnyrch plastig newydd.

Mae’r cwmni bellach yn gweithio’n agos gyda Hardshell, sef y cwmni cyntaf ym Mhrydain i gynhyrchu masgiau o safon FFP3, sydd hefyd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, i brofi effeithlonrwydd y cynnyrch. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n treialu gorchuddion wyneb tafladwy Hardshell drwy ei beiriant, drwy ddefnyddio masgiau wyneb diffygiol fyddai’n mynd i safle tirlenwi fel arall, yn ogystal â chyfarpar diogelu personol sydd wedi’i ddefnyddio. Mae’r cydweithio yma’n golygu bod Grŵp Compaction Thermal yn helpu i leihau gwastraff hyd yn oed yn ystod cyfnod datblygu’r cynnyrch. 

Cafodd y cwmni ei gyflwyno i Hardshell gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n gweithio i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol at ddibenion iechyd a lles.   

Ar hyn o bryd, mae dyfeisiau Sterimelt y cwmni wedi’u lleoli mewn saith ymddiriedolaeth ysbyty ledled Prydain, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng Nghasnewydd, sef yr ymddiriedolaeth gyntaf i fabwysiadu’r dechnoleg yn 2016. 

Mae ymddiriedolaethau ysbytai ledled Prydain wedi archebu wyth dyfais arall, sy’n cael eu hadeiladu i’w dosbarthu erbyn mis Mehefin, ac mae Grŵp Compaction Thermal yn disgwyl rhagor o archebion erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r blociau sy’n cael eu cynhyrchu o’r broses ymdoddi’n cael eu casglu gan y cwmni ac yna’n cael eu hanfon ymlaen at gydweithredwyr amrywiol, fel cwmni ReWorked yn Hull, i greu ystod o eitemau newydd, gan gynnwys biniau. Mae modd anfon y cynnyrch yma’n ôl i ymddiriedolaethau’r ysbytai i’w defnyddio fel biniau gwastraff meddygol, gan greu cadwyn ailgylchu gynaliadwy.

Yn ogystal â lleihau gwastraff plastig untro, bydd y dechnoleg arloesol hefyd yn cynorthwyo ymddiriedolaethau i leihau eu hallyriadau carbon drwy leihau cyfaint y gwastraff sydd angen ei gludo oddi ar y safle. Mae Grŵp Compaction Thermal yn amcangyfrif, am bob 10,000 cilogram o wastraff sy’n cael ei roi drwy Sterimelt, y bydd ymddiriedolaethau ysbytai yn arbed 7,500 cilogram o allyriadau carbon, sy’n arbediad o tua 75% ar eu hallbynnau cyfredol. 

Meddai Thomas Davison-Sebry, Prif Swyddog Cynaliadwyedd Grŵp Thermal Compaction:

“Mae pandemig Covid-19 wedi dangos faint o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan blastig tafladwy, yn ogystal â dangos pa mor anghynaladwy yw arferion rheoli gwastraff cyfredol ar lefel fyd-eang. Mae’r technolegau a’r atebion rydyn ni’n gweithio arnyn nhw’n golygu na fydd angen i blastig untro gael ei ddefnyddio unwaith yn unig yn y dyfodol.

“Yn ogystal â defnyddio’r blociau gan Sterimelt i greu biniau mewn ysbytai, rydyn ni’n gweithio ar ddatblygu’r dechnoleg er mwyn gallu argraffu eitemau 3D fel castiau breichiau a fyddai’n golygu llai o wastraff gypswm sydd bellach wedi’i wahardd o safleoedd tirlenwi ym Mhrydain. Rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel, nid yn unig o Brydain, ond o bob cwr o’r byd gan gynnwys Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau. Rydyn ni’n gwybod bod galw am y dechnoleg yma, felly rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau i dyfu ac i ddarparu ein peiriant yn rhyngwladol.”

Er bod peiriant Sterimelt yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o gynnyrch polypropylen, mae rhai elfennau o fasg wyneb o radd feddygol nad oes modd eu hymdoddi, er enghraifft y darnau trwyn sydd wedi’u gwneud â weiar. Er mwyn gwella cynaliadwyedd, mae Grŵp Compaction Thermal wedi bod yn cynghori’r cwmnïau mae’n gweithio gyda nhw, er enghraifft Hardshell, ar sut i greu’r cyfarpar diogelu personol o un deunydd polymer fel bod modd ymdoddi’r masg cyfan ar yr un pryd. Ers hynny, mae cynhyrchwyr cyfarpar diogelu personol o bob cwr o’r byd wedi bod yn cysylltu â’r cwmni i gael cymorth ar sut i symleiddio’u cynnyrch er mwyn sicrhau bod modd eu hailgylchu’n llwyr drwy ddefnyddio atebion ‘yn y gwraidd’ Grŵp Compaction Thermal, fel Sterimelt.

Meddai Anil Kant, Prif Swyddog Gweithredol cwmni Hardshell:

“Rydyn ni’n falch o fod wedi ateb yr alwad gan Lywodraeth Cymru i helpu Cymru i gynhyrchu masgiau wyneb ac anadlyddion math FFP2 ac FFP3 sydd wedi’u hardystio gan y gwasanaeth iechyd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i gynorthwyo Grŵp Compaction Thermal i ddatblygu technoleg arloesol. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r pwysau sydd ar yr amgylchedd o ran gwaredu gwastraff, felly rydyn ni’n hapus iawn bod ein deunydd polypropylen yn gallu osgoi’r dynged yma a bod defnydd arall iddo yn hytrach na mynd i safle tirlenwi.”

Wrth sôn am arloesedd a llwyddiant byd-eang Grŵp Compaction Thermal, meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae’r dechnoleg sydd wedi cael ei chreu gan Grŵp Compaction Thermal yn torri tir newydd, ac rydyn ni’n falch o rannu enghraifft arall o’r arloesedd a’r ymrwymiad anhygoel rydyn ni’n ei weld gan ddiwydiant gwyddorau bywyd Cymru. 

“Mae’r ymateb byd-eang i’r dechnoleg yma a wnaed yng Nghymru yn wych, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y Grŵp yn parhau i dyfu ac arloesi atebion newydd i fynd i’r afael â’r holl wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn sgil y pandemig a thaclo’r argyfwng amgylcheddol parhaus.”

Ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r alwad i weithredu y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda thros 300 o fusnesau Cymru i gynhyrchu cyflenwadau pwysig mewn ymateb i’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu cyfarpar diogelu personol, hylif diheintio dwylo a pheiriannau anadlu yma yng Nghymru.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed i gludo cyflenwadau ac offer angenrheidiol yn ddiogel o dramor, ac wedi darparu cymorth hanfodol i gwmnïau drwy Gronfa Cymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi COVID-19 SMART Cymru.

Dywedwch wrthym am eich arloesi!

Os oes gennych brosiect neu syniad arloesol yn awyddus i godi eich rhaglen waith, dywedwch fwy wrthym amdano drwy ein Ffurflen Ymholiad Arloesi.