Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC), cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi cydweithredu gyda sefydliad newydd technoleg iechyd Cymru sef Concentric Health ar brosiect i ddatblygu ac i ddeall y potensial ar gyfer rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (APIau) yn y system gofal iechyd yng Nghymru.

Aphoto of the speakers

Amcan:

Fel rhan o’n hymrwymiad i agor systemau a data fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid Ddigidol, roedden ni eisiau datblygu mecanwaith ar gyfer systemau allanol sy’n cael eu cynnal gan y rhyngrwyd i gyfathrebu’n ddiogel gyda systemau mewnol NWIS drwy gyfrwng APIau.

Mae APIau yn cynnig cyfle i osgoi gwaith integreiddiad dyrys, sy’n galluogi atebion technoleg addawol ac sydd wedi’u profi i ryngweithio gyda data a systemau i helpu i ddatblygu gwasanaethau a chynnyrch newydd.

Amcan y prosiect oedd cyd-ddylunio a datblygu APIau mewn ffordd ystwyth, gan ganiatáu i EIDC ddeall anghenion diwydiant a’r GIG yn well, a defnyddio mwy o APIau o’r fath yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Strategaeth:

Er mwyn mynd i’r afael â’r amcanion hyn, ymunodd EIDC â Concentric Health, sefydliad technoleg iechyd newydd. Oherwydd bod y ddau dîm wedi’u lleoli yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd a Concentric eisoes yn y broses o drefnu meddalwedd ym Myrddau Iechyd Cymru roedd yn gydweithrediad naturiol.

Datblygodd camau cychwynnol y prosiect API i chwilio am ddemograffig cleifion, ac API i anfon dogfen yn ôl i storfa ddogfennau NWIS. Mae’r rhain yn nodweddion sy’n cael eu defnyddio gan lwyfan caniatâd digidol Concentric Health. Yn ystod y prosiect pedair wythnos gweithiodd y tîm gyda’i gilydd gyda’r bwriad o ddangos sut roedd meddalwedd caniatâd digidol Concentric yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â systemau NWIS gan ddefnyddio APIau rhyngweithredu, sy’n wynebu’r rhyngrwyd (sef Adnoddau Rhyngweithredu Cyflym Gofal Iechyd – FHIR).

Roedd tîm y prosiect yn cynnwys Mark Frayne, Huw Angle a Dr Dafydd Loughran, Jon Pearse, a Martyn Loughran o Concentric Health. Cafodd amgylcheddau datblygu pensaernïaeth NWIS eu defnyddio ar gyfer y prosiect ac fe gafon nhw eu cynnal yn y cwmwl. Roedd y rhain yn cynnwys Gwasanaeth Demograffig Cymru (WDS) a Gwasanaeth Cofnodion Clinigol Cymru (WCRS).  Cafodd gwelliannau eu gwneud i’r gwasanaethau er mwyn caniatáu cyfathrebu rhwng systemau sydd wedi’u hawdurdodi gan ddefnyddio APIau FHIR.

Trwy gydol y prosiect, bu’r timau’n rhannu syniadau a gwybodaeth dechnegol, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn ailadrodd y nodweddion yn gyflym. Erbyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos roedden nhw wedi datblygu APIau, gan ddangos bod prosiectau API ystwyth sy’n cael eu dylunio ar y cyd yn gallu effeithio ar fyrddau iechyd a’r gwaith o fabwysiadu technoleg iechyd ledled Cymru.

Canlyniad:

Mae EIDC a Concentric Health wedi datblygu integreiddiad lle mae’r cysyniad wedi cael ei brofi rhwng rhaglen ganiatâd ddigidol Concentric a systemau NWIS, gan ddefnyddio APIau rhyngweithredu ar gyfer demograffig cleifion a storio dogfennau.

Mae modd i glinigwr ofyn am fanylion cleifion yn ddiogel gan ddefnyddio rhaglen Concentric gan weinydd datblygu NWIS. Mae WCRS yn gallu cael dogfen ganiatâd PDF yn awtomatig, a fydd i’w gweld ym Mhorth Clinigol Cymru, pan fydd dogfen ganiatâd yn cael ei chynhyrchu yn rhaglen Concentric.

Manteision:

Dywedodd Dr Dafydd Loughran, Prif Swyddog Gweithredol Concentric Health:

“Gallai APIau rhyngweithredu, sy’n wynebu’r rhyngrwyd ochr yn ochr â’r seilwaith cenedlaethol yng Nghymru effeithio’n sylweddol ar ganlyniadau a phrofiad gofal cleifion, yn ogystal â chefnogi ein clinigwyr i ddarparu gwasanaeth diogel, effeithlon. Nid yw’r APIau sydd wedi cael eu datblygu yn ystod y prosiect hwn yn unigryw i Concentric, fe allen nhw gael eu defnyddio gan unrhyw dechnoleg iechyd fyddai angen cyflawni swyddogaethau tebyg.

Mae prosiectau fel yr un yma’n dangos potensial Cymru i fod yn arweinydd ym maes arloesi gofal iechyd digidol. Mae systemau TG craidd eisoes yn cael eu rhannu ar draws poblogaeth o dair miliwn o bobl, gan wneud y gwaith o arloesi ochr yn ochr â byrddau iechyd yn hawdd a deniadol. Gallai hyn arwain at weld Cymru yn dod yn fan cychwyn ar gyfer technoleg iechyd ar draws y byd."

Cydweithredu:

Yn ogystal â’r cynnydd amlwg i dechnoleg gofal iechyd digidol yng Nghymru, mae’r prosiect hefyd wedi amlygu’r manteision o gydweithredu rhwng sefydliadau gwahanol ledled ecosystem technoleg gofal iechyd Cymru.

Roedd yn nodi’r tro cyntaf i EIDC gyflawni gwaith ymchwil a datblygu mewn cydweithrediad â thrydydd parti, gyda Concentric Health a EIDC yn rhannu eu harbenigedd unigol yn y diwydiant.

Dywedodd Huw Angle, Prif Ddatblygydd Meddalwedd yn EIDC:

“Dyma ddechrau gwelliant arwyddocaol yn y gwasanaeth mae NWIS yn ei gynnig i ddatblygwyr. Mae’n dangos ein bod ni’n gweithio i ymgysylltu a chydweithredu gyda’r sector technoleg iechyd ehangach i gefnogi nodau prosiect Ecosystem Iechyd Digidol, yn ogystal â cheisio cael adborth ar sut i wella’r APIau newydd.”

Y Cam Nesaf:

Mae’r cydweithrediad bellach ar yr ail gam, ac mae’n parhau gyda’r nod o weld APIau yn cael eu defnyddio mewn sefyllfaeodd clinigol byw mewn Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Dafydd:

“Yr her yn ystod y misoedd nesaf fydd goresgyn yr anawsterau, y rhai technegol a’r rhai gwleidyddol, er mwyn gallu defnyddio’r APIau rhyngweithredu, sy’n wynebu’r rhyngrwyd ochr yn ochr â systemau NWIS."

Ochr yn ochr â’r APIau sy’n cael eu disgrifio yn y prosiect hwn, mae cam nesaf gwaith EIDC hefyd yn cynnwys trosglwyddo canlyniadau data cleifion sydd wedi cael eu cofnodi i gronfa ddata NWIS ganolog. Dyma gydweithrediad sydd hefyd yn cynnwys DrDoctor a Patients Know Best.

Beth nesaf?

Ydych chi eisiau mynd â'ch syniad neu eich cynnyrch i'r lefel nesaf? Mae EIDC yma i helpu. 

Cysylltwch â ni heddiw i ddod o hyd i sut gallwn ni eich helpu.