Hyd Y Prosoect: 12 mis

Partneraid: Cynon Valley Organic Adventures Ltd, Interlink Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Clwstwr Gofal Sylfaenol De Cwm Cynon / Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd

Nod Y Prosiect: Magu, gwerthuso a hyrwyddo ymgysylltiad ag adnodd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Two males in a garden, digging a hole.

Trosolwg

Mae nifer o ddylanwadau’n effeithio ar ein hiechyd. Rydym yn gwybod bod ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn cael mwy o ddylanwad ar statws iechyd nag ymyriadau clinigol. Yr ymwybyddiaeth bod cyflyrau iechyd hirdymor yn cael effaith niweidiol ar ymgysylltu cymdeithasol, cyflogaeth ac iechyd meddwl, sy’n arwain y gwaith o archwilio modelau newydd sy’n canolbwyntio ar gymdeithas er mwyn gwella canlyniadau iechyd.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cynnwys ymyriadau anghlinigol yn y gymuned ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau iechyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a lles iechyd, fel rhaglenni gweithgarwch corfforol, cyngor ar fwyta’n iach, garddio, y celfyddydau a gwirfoddoli.

Mae presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn cynnig cyfleoedd i wella iechyd a lles drwy gael mynediad at fannau gwyrdd a gweithgareddau natur. Er gwaethaf y camau i wreiddio presgripsiynu cymdeithasol/gwyrdd yn y GIG, mae prinder tystiolaeth gadarn o’I effeithiolrwydd, a fyddai’n rhoi sail i’w rôl wrth leihau anghydraddoldebau ac iechyd gwael.

Mae’r prosiect hwn, sydd wedi’i leoli yn Rhondda Cynon Taf, un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn y DU, yn adeiladu ar y cysylltiadau sy’n bodoli eisoes rhwng meddygon teulu lleol, cydlynwyr lles a Cynon Valley Organic Adventures, gan greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â natur. Yn ogystal ag adeiladu llwybr natur newydd, mae’r prosiect yn archwilio ei botensial ar gyfer gwella llesiant ac yn edrych ar ymgysylltu â’r rheini sydd mewn swyddi a allai ddylanwadu ar arferion presgripsiynu cymdeithasol.

Mae Cyflymu yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect cydweithredol hwn drwy gyfraniad arbenigwyr academaidd ar draws 3 o Ysgolion Prifysgol Caerdydd, gydag arbenigedd rheoli prosiect ac ymgysylltu gan y Cyflymydd Arloesedd Clinigol. Bydd y cydweithio yn caniatau:

  • Adolygiad o lenyddiaeth a gyhoeddwyd ar Bresgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd ac asesiad o ganfyddiadau gweithiwr gofal iechyd cymunedol proffesiynol ynghylch gwerth dulliau o’r fath.
  • Llwybr natur a ddatblygwyd gan y gymuned yn Abercynon a fydd yn rhoi cyfleoedd i feddygon teulu wneud atgyfeiriadau ac i aelodau’r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau natur
  • Asesiad o effaith presgripsiynu gwyrdd ar lesiant personol a chymdeithasol gan ddefnyddio teclyn hunanasesu ar-lein a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiect hwn

Yn ôl Janis Werrett, Cyfarwyddwr CVOA,

“Mae’n bleser gan Cynon Valley Organic Adventures fod yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd ar y prosiect hwn sydd ar y gweill. Bydd y prosiect yn rhoi cyfleoedd i bobl leol wella eu llesiant, a bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu man cymunedol rhyfeddol a fydd yn galluogi dysgu ac yn fan gwyrdd hygyrch am flynyddoedd i ddod.”

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Llwybr natur rhyngweithiol, wedi’i gydgynhyrchu a’I gyd-greu yng Nghwm Cynon, sy’n gwasanaethu’r gymuned leol i hyrwyddo gwell llesiant a chanlyniadau iechyd hirdymor
  • Adnodd llesiant ar ap i fesur llesiant goddrychol unigolion sy’n defnyddio’r llwybr
  • Dull presgripsiynu gwyrdd enghreifftiol y gellid ei efelychu mewn safleoedd eraill ledled Cymru
  • Cyfleoedd ar gyfer rhagor o gydweithio
  • Astudiaethau achos
  • Cyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid

Effaith Yn Y Dyfodol

  • Mwy o ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr gofal iechyd gofal sylfaenol proffesiynol yn Ne Cwm Cynon o fanteision posibl presgripsiynu gwyrdd i’r boblogaeth leol
  • Dangos tystiolaeth bod ymgysylltu â natur drwy lwybr natur yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant y gymuned
  • Model i ysbrydoli a chefnogi’r broses o roi presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd ar waith ledled Cymru

Yn ôl Yr Athro Les Bailie, Prifysgol Caerdydd,

“Mae ein partneriaeth â CVOA a phobl Cwm Cynon yn ymwneud â chreu llwybr sy’n rhoi mynediad i ymwelwyr at natur a manteision bod mewn mannau gwyrdd. Mae presgripsiynu gwyrdd yn amserol iawn, ond mae angen tystiolaeth wyddonol fwy cadarn i helpu cymdeithas i ddeall yn well y manteision y gall eu cynnig i fywydau pobl. Bydd Prifysgol Caerdydd yn penderfynu sut mae cysylltu â natur yn hybu iechyd a lles. Byddwn yn cefnogi’r gymuned drwy ddarparu arbenigedd gan grwpiau fel y prosiect Pharmabees I helpu i greu mannau cyfeillgar i bryfed peillio, a byddwn yn eu cysylltu ag adnoddau addysgol.”

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner