Hyd y prosiect: 3 mis

Partneriaid: Rescape Innovation Limited, Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol UWTSD (ATiC) a Chyflymydd Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd (CIA) 

Nod y prosiect: Datblygu gweithdrefnau rheoli heintiau ar gyfer defnyddio rhith-wirionedd yn ddiogel mewn lleoliadau gofal iechyd

Man wearing virtual reality headset.

Trosolwg y prosiect

Mae rhith-wirionedd (VR) yn galluogi defnyddwyr i ryngweithio â byd rhithwir 3D mewn amgylchedd diogel, amser real. Mae’n cael ei ddefnyddio'n fwy helaeth ym maes gofal iechyd i wella profiadau cleifion a staff. Mae Rescape Innovation Limited yn arloesi’r defnydd o VR mewn gofal iechyd i leihau poen a gorbryder, ac i wella taith y claf. Maent wedi sefydlu llwyfan Rhith-wirionedd (VR), o’r enw DR.VR™, sydd wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus yn y GIG, mewn cartrefi gofal ac mewn hosbisau.

Mae’r llwyfan hwn hefyd wedi cael ei ddefnyddio i helpu i leihau gorbryder a straen ymysg staff gofal rheng flaen, yn ogystal â darparu hyfforddiant ar empathi a sgiliau emosiynol eraill yn llwyddiannus mewn gwasanaethau golau glas.

Gyda dyfodiad COVID-19, mae’r angen am fesurau rheoli heintiau cadarn wedi dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r protocolau rheoli heintiau sydd eu hangen er mwyn defnyddio VR yn llwyddiannus mewn lleoliadau gofal iechyd.

Cyfraniad Cyflymu

Mae Cyflymu yn cefnogi'r prosiect hwn gyda Rescape drwy fewnbwn gan nifer o bartneriaid o’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC [Y Drindod Dewi Sant]) a Cyflymu Arloesi Caerdydd (CIA

[Prifysgol Caerdydd]).



Rôl ATiC fydd cynnal astudiaeth defnyddioldeb er mwyn:

  • Sefydlu heriau o ran rheoli heintiau wrth ddefnyddio DR.VR™ ar draws amrywiaeth o ddibenion
  • Gwerthuso effeithiolrwydd y deunydd protocol rheoli heintiau newydd a luniwyd ac a gynhyrchwyd gan Rescape.

Bydd rôl Cyflymu Arloesi Caerdydd yn cynnwys cefnogi’r canlynol:

  • Mynediad at arbenigwr rheoli heintiau
  • Nodi’r ddyfais feddygol/rheoliadau rheoli heintiau perthnasol
  • Rhoi canllawiau rheoli heintiau ar waith sy’n addas ar gyfer y dechnoleg DR.VR™
  • Archwilio effeithlonrwydd cynnyrch perthnasol o ran rheoli lledaeniad heintiau wrth ddefnyddio’r dechnoleg DR.VR™

Canlyniadau

  • Datblygu a gweithredu protocolau rheoli heintiau newydd a darparu gwasanaethau ar gyfer y llwyfan DR.VR™
  • Potensial i ddatgloi rhagor o gyfleoedd i ddatblygu a gwerthu cynnyrch a chynnwys at ddibenion newydd yn y GIG, mewn cartrefi gofal ac mewn clinigau preifat
  • Cynyddu treiddiad y farchnad a refeniw, gan arwain at gynnydd mewn cyflogaeth ar gyfer swyddi medrus iawn
  • Cyhoeddiadau ac astudiaethau achos wedi eu hadolygu gan gymheiriaid

Effaith yn y dyfodol 

  • Cydweithrediadau yn y dyfodol rhwng diwydiant, y byd academaidd a phartneriaid clinigol
  • Buddiannau tymor hir i staff a gwasanaethau gofal iechyd drwy reoli straen a gorbryder yn well ymysg staff rheng flaen
  • Gwella llesiant ar draws y sector iechyd a gofal yng Nghymru, gan gyd-fynd ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus a Cymru Iachach
  • Twf y cwmni yn sgil galw cynyddol yn y farchnad
  • Llwyfan rhithwir a allai weithredu fel model rheoli heintiau y tu hwnt i Gymru

Bydd Rescape, ATiC a CIA yn defnyddio allbynnau’r cam cyntaf hwn o’r gwaith i ystyried cyfleoedd pellach ar gyfer y prosiect.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner