Trydydd parti

Mewn tirwedd gofal iechyd sy'n esblygu'n barhaus, mae Fferyllfeydd Cymunedol wedi aros yn eu hunfan am ddau ddegawd. Fodd bynnag, mae’r galw am wasanaethau clinigol ochr yn ochr â’r gwaith traddodiadol o gyflenwi meddyginiaethau yn golygu bod rhaid newid y dull o weithredu.

community pharmacy
  • Rhyddhau fferyllwyr o’r broses weinyddu 
  • Cael gwared ar gamgymeriadau gweinyddu 
  • Gwneud fferylliaeth gymunedol mor effeithiol â phosibl 

Dyma gyflwyno PharmacyX: meddalwedd arloesol a fydd yn chwyldroi’r sector. Drwy alluogi gweinyddu di-bapur, effeithlon a mwy diogel, ar yr un pryd â rhyddhau fferyllwyr o’r broses hon, mae PharmacyX yn grymuso’r fferyllfeydd hyn i gynnig gofal cynhwysfawr i gleifion. Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio effaith drawsnewidiol PharmacyX ar weithrediad Fferyllfeydd Cymunedol.

Nodau’r Prosiect 

Dechreuwyd y prosiect mewn ymateb i angen dybryd a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru i leddfu’r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd sylfaenol. Ar hyn o bryd, mae gwaith Fferyllfeydd Cymunedol yn cael ei lesteirio gan feddalwedd hen ffasiwn, sy’n arwain at aneffeithlonrwydd ac anawsterau i fferyllwyr wrth weinyddu presgripsiynau. Y nod oedd creu meddalwedd newydd i wella effeithlonrwydd, diogelwch a gallu fferyllwyr i gynnig gwasanaethau clinigol, yn unol â gweledigaeth y llywodraeth a chan fynd i’r afael â’r gofynion sy’n esblygu yn y dirwedd gofal iechyd. 

Dechrau’r prosiect 

Roedd lansio’r prosiect yn dibynnu ar ailwampio’r broses weinyddu yn llwyr. Gwnaethom ail-ddychmygu'r llif gwaith yn fanwl o'r gwaelod i fyny, gan ganolbwyntio ar symleiddio tasgau. Roedd ein strategaeth yn cynnwys lleihau’r amser y mae fferyllwyr yn ei dreulio ar dasgau gwirio clinigol a defnyddio codau bar cynnyrch i gynhyrchu labeli, gan gael gwared ar gamgymeriadau gweinyddu. Roedd newid i lif gwaith di-bapur yn gwella effeithlonrwydd a thryloywder i gleifion. Yn hollbwysig, ein nod oedd rhyddhau fferyllwyr o’u dyletswyddau gweinyddu, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau clinigol hanfodol. Roedd y dull cyfannol hwn yn rhoi sylw i effeithlonrwydd gweithredol a gofal cleifion, yn unol â’n gweledigaeth a’r dirwedd gofal iechyd sy’n esblygu. 

Heriau’r prosiect

Roedd y brif her yn deillio o newid dulliau gweithredu a fu ar waith ers amser maith mewn timau fferyllfa sefydledig. Roedd addasu eu harferion yn sialens a oedd yn gofyn am reoli newid yn effeithiol. Roedd symud fferyllwyr oddi wrth bresgripsiynau ffisegol i sgriniau digidol ar gyfer archwiliadau clinigol, a chaniatáu i weinyddwyr roi eu presgripsiynau i gleifion heb wiriad gan fferyllydd, yn newidiadau mawr. Y peth pennaf a ddysgwyd oedd pwysigrwydd cyfleu’r sail resymegol y tu ôl i bob proses newydd mewn modd tryloyw, gan ddangos y rhesymeg a’r manteision. Roedd y dull hwn yn helpu’r staff i ddeall a chroesawu’r newidiadau, fel eu bod yn derbyn rhesymeg y system. Roedd goresgyn gwrthwynebiad drwy ddealltwriaeth yn paratoi’r ffordd ar gyfer gweithredu llwyddiannus.

Canlyniadau’r prosiect

Fe wnaethom chwyldroi llif gwaith fferyllfeydd gan ganiatáu i’n fferyllwyr ddarparu mwy o ofal clinigol. Mae’r canlyniadau wedi bod yn drawiadol:

  • Gwell Mynediad a Deilliannau i Gleifion: Mae’r rôl estynedig hon wedi gwella gofal cleifion yn sylweddol, yn enwedig i’r rheini sydd â mynediad cyfyngedig at feddygon. Cynyddodd nifer yr Ymgynghoriadau Anhwylderau Cyffredin ym mis Mehefin 2023 220% o’i gymharu â mis Mehefin 2022, gan ddangos yr effaith gadarnhaol. 
  • Arbedion Cost a Grymuso: Llai o faich ar y system gofal iechyd, llai o apwyntiadau diangen ac ymweliadau diangen ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys. 
  • Effeithlonrwydd a Diogelwch Gweithredol: Cafwyd gwared ar gamgymeriadau gweinyddu, ac roedd 68% yn llai o stoc yn cael ei ddal. Gostyngiad o 90% mewn amser gwirio clinigol. 
  • Twf Ariannol: Gwelodd defnyddwyr PharmacyX gynnydd cyfartalog o 15% mewn presgripsiynau o un flwyddyn i’r llall, gan ragori ar y cyfartaledd cenedlaethol o 2.3%. Roedd fferyllwyr yn croesawu datblygiad gyrfa, ac esblygodd rolau technegwyr, gan feithrin gweithlu llawn cymhelliant. 

Mae'r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at effaith drawsnewidiol y prosiect ar ofal cleifion, boddhad staff, datblygiad gyrfa, a chynnydd ariannol. Cafwyd gwared ar gamgymeriadau gweinyddu, roedd gostyngiad sylweddol yn y stoc a oedd yn cael ei ddal, ac roedd gan y fferyllwyr amser ar gyfer tasgau hollbwysig. Mae’r cynnydd yn y ddarpariaeth gwasanaethau a’r twf o ran presgripsiynau yn tanlinellu llwyddiant y newid model tuag at wasanaethau clinigol sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae gwireddu’r prosiect nid yn unig o fudd i fferyllwyr cymunedol ond hefyd yn cyfrannu at system gofal iechyd sy’n canolbwyntio mwy ar y claf.

Mae arolygon gweithwyr a phost gan fferyllwyr eraill wedi arwain at ddyfyniadau fel y rhain:

"PharmacyX yw’r system orau rydw i wedi’i defnyddio mewn fferyllfa ac mae’n cynyddu cynhyrchiant a chywirdeb yn aruthrol."

“Mae’n prosesu presgripsiynau’n awtomatig ac mewn ffordd wahanol. Mae’r casglu yn gyflym ac yn cael ei wneud drwy gymysgedd o swmp gasglu a golden tote. Mae’r system wedi’i hadeiladu i ryddhau’r fferyllydd ar gyfer gwasanaethau clinigol, ac mae’n gwneud hynny’n berffaith, gan barhau i ddarparu ymwybyddiaeth a rheolaeth dros y broses weinyddu drwy’r archwilio clinigol ar y sgrin."

Y camau nesaf 

Yn dilyn integreiddio’r system yn llwyddiannus ar draws saith o ganghennau Fferyllfa Mayberry, mae cyrhaeddiad ein meddalwedd wedi ymestyn i fferyllfeydd eraill ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn 50 o safleoedd ledled Cymru. Gan gydweithio ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar y rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, gwnaethom sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol drwy Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae cam nesaf y prosiect yn golygu gallu prosesu presgripsiynau’n electronig yng Nghymru, gan ddefnyddio ein llif gwaith di-bapur ac integreiddio ag Ap GIG Cymru. Hoffem ehangu ar draws y DU, gan greu nifer o gyfleoedd cyflogaeth o bosibl. 

Ewch i pharmacyx.com a threfnu arddangosiad neu drefnu ymweliad â safle byw. Neu anfonwch e-bost at paul@pharmacyx.com 

Cynnal eich astudiaethau achos ar ein gwefan.
Cyflwynwch eich astudiaethau achos trwy ein gwefan at ddiben adolygu, cymeradwyo a hyrwyddo ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.