Fel rhan o'r prosiect hwn, roedd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Patients Know Best (PKB) a Dr Doctor (DrDr) yn cydweithio i wella’r broses o gasglu a storio data PROMs.

PROMs image

Trosolwg:

Gyda’r Tîm Ecosystem sydd wedi’i leoli yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn arwain y datblygiad dan ofal Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, mae’r tîm wedi gweithio gyda PKB a DrDr i greu prawf cysyniad ar gyfer ateb technegol cadarn i wella proses PROMs.

Amcan:

Drwy greu prawf cysyniad gyda’i gilydd, nod y tîm oedd profi dichonolrwydd casglu data PROMs a’i storio mewn storfa ganolog heb ystyried y ffynhonnell wreiddiol, a deall cyfyngiadau technegol a’r cyfyngiadau busnes a fyddai’n codi os byddai ateb o’r fath yn cael ei gynhyrchu.

Y nod yn y pen draw yw galluogi’r broses o gasglu rhagor o ddata am ganlyniadau cleifion er mwyn eu defnyddio i ddatblygu modelau gofal newydd.

Gyda’r data cywir gan gleifion yn cael ei symleiddio a’i ddefnyddio’n effeithiol, y gobaith yw y gallai hyn wella profiad cleifion ac ansawdd triniaethau yn y pen draw.

Dywedodd Matthew Steer, sef Rheolwr Cynnyrch yn DrDr:

“Mae’n amlwg y dylai canlyniadau PROMs fod yn rhan o gofnodion electronig am gleifion ac fe fyddai’n rhan amhrisiadwy o setiau data canolog PROMs ar gyfer ymchwil a datblygu.

“Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr mai ein dull o ran gwneud PROMs a data eraill ar gael drwy APIs safon FHIR oedd yr un gorau ar gyfer y prosiect hwn a chynlluniau data tebyg yn y dyfodol.”

Heriau’r diwydiant:

Roedd y tîm yn bwriadu gwella proses PROMs, gan fod amrywiaeth o ran sut mae data cleifion yn cael ei gasglu ar hyn o bryd. Mae systemau gwahanol yn cael eu defnyddio ar draws GIG Cymru, gyda nifer cyfyngedig o integreiddio neu fecanweithiau ar gyfer echdynnu’r data.

Mae hyn yn achosi problemau ar gyfer ymchwilwyr a chlinigwyr sydd eisiau dadansoddi a deall data PROMs i adnabod tueddiadau cyffredin mewn triniaethau, fel cyfraddau llwyddiant, a sut mae ymyrraeth feddygol yn effeithio ar ansawdd bywyd cleifion. 

Daeth y tîm i’r casgliad, gan ei fod yn debygol y bydd sawl darparwr gwybodaeth PROMs ar draws systemau a Byrddau Iechyd gwahanol, roedden nhw eisiau nodi’n glir y safon seiliedig ar FHIR ar gyfer gwneud data ar gael. Byddai hyn yn symleiddio’r broses o gasglu a gwerthuso data PROMs.

Er mwyn mynd i’r afael â heriau’r diwydiant, aeth y partneriaid ati i weithio gyda’i gilydd i greu safon ynghylch casglu PROMs ar gyfer Cymru.

Byddai hyn yn cynnwys canllawiau ynghylch ansawdd y data - er enghraifft pa ddata sy’n cael ei gasglu a’i strwythur. Byddai safonau hefyd ar gyfer y dulliau cyfathrebu rhwng y systemau gwahanol er mwyn creu dull rhyngweithio cyffredin. 

Strategaeth:

Dechreuodd brif ffocws y prosiect ym mis Ionawr 2020, yn dilyn cynllunio cychwynnol rhwng y partneriaid, ac mae rhywfaint o waith yn dal i fynd rhagddo.

Cafodd y datblygiad ei arwain gan y tîm ecosystem yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gyda DrDr yn neilltuo tîm datblygu bach i adeiladu API FHIR i wneud ei ddata PROMs ar gael i Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC).

Fel rhan o’r prosiect, gwnaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru werthuso ateb prototeip, a oedd yn cynnwys dau brif gam gwaith. Roedd cam cyntaf y tîm yn cynnwys creu cais a fyddai’n gallu casglu a thrawsnewid PROMs gan gyflenwyr a’u mewnforio i mewn i ateb Cenedlaethol presennol PROMs a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Un o fanteision y dull hwn yw y bydd y rhain yn cael eu codi gan y prosesau presennol ac yn cael eu gwneud ar gael i’w dadansoddi.

Yna, aeth y tîm ati i weithio ar yr ail gam, sef datblygu safon a fyddai’n sicrhau bod y data sy’n cael ei gasglu yn gyson, gan sicrhau’r rheini sy’n cadw at y broses eu bod yn casglu'r data cywir.

Cydweithio:

Gyda thimau’r partneriaid wedi’u gwasgaru ar draws y DU, roedd Slack yn cael ei ddefnyddio fel platfform negeseuon i drafod heriau, cynnydd a chamau gweithredu tîm y prosiect.

Diolch i'w hagwedd hyblyg a’u hymroddiad, roedd y tîm yn gallu cydweithio’n effeithiol. Roedd hyn yn eu galluogi i fynd ati’n llwyddiannus i barhau gyda’u prosiect ar y cyd wrth weithio o leoliadau gwahanol.

Cynnydd hyd yma:

Yn ystod y cam darganfod, sylweddolodd y tîm fod creu strategaeth yn broses llawer iawn haws na’i ddefnyddio. Daeth yn amlwg y byddai cael un ateb ar gyfer yr holl fathau o PROMs yn amhosibl. Y rheswm am hyn yw bod PROMs yn offer sydd wedi’i ddiffinio ymlaen llaw, yn cael ei greu yn aml gan bobl a sefydliadau gwahanol, ac yn rhwym wrth hawlfraint.

Canfuwyd y tîm y byddai cyhoeddi safonau unigol ar gyfer yr holl fathau o PROMs yn dasg anodd gan y gallai amharu ar gytundebau trwyddedau presennol drwy ddatgelu strwythur y PROM yn anuniongyrchol.

Dywedodd Boris, sef Prif Ddatblygwr Meddalwedd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru:

“Rydyn ni wedi sylweddoli, er bod y cynllun gweithredu yn eithaf syml, mae llawer o gydrannau sy’n symud wrth wneud y tasgau.

“Rydyn ni wedi gallu nodi beth yn union yw cyfyngiadau technegol presennol yr holl bartïon cysylltiedig. Mae hyn yn ein galluogi i amcangyfrif yr amserlenni a’r adnoddau y byddwn eu hangen wrth ddatblygu ateb priodol.”

Manteision:

Bydd cael un set ddata o ddata PROMs i gynrychioli poblogaeth Cymru gyfan yn adnodd pwysig a defnyddiol wrth ddatblygu modelau gofal seiliedig ar werthoedd yn y dyfodol.