Hyd: 12 mis

Partneriad: Hayley T Wheeler, Speaker Insight, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Caerdydd

Nod Y Prosiect: Archwilio gwerth cymdeithasol a masnachol dull newydd Hayley Wheeler o wella iechyd meddwl a lles oedolion a phlant drwy ymyriad moddolrwydd cymysg, EmotionMind Dynamic

Hayley Wheeler headshot.

Trosolwg:

Dylanwadir ar les gan gyfuniad cymhleth o elfennau emosiynol, corfforol ac amgylcheddol. Mae effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl wedi arwain at ryddhad sydyn. Ers blynyddoedd lawer, mae triniaethau ar gyfer iechyd meddwl wedi bod yn rhai clinigol yn bennaf, gan gynnwys triniaethau ffarmacolegol a seicolegol. Fodd bynnag, mae gan therapïau siarad amseroedd aros hir a allai gael effaith andwyol ar ganlyniadau iechyd meddwl. Byddai arallgyfeirio argaeledd ymyriadau yn helpu I fynd i'r afael ag anghenion heb eu diwallu drwy gynyddu capasiti ac ehangu dewis.

Er bod angen mesurau diogelu cadarn arnynt i amddiffyn pobl sy'n agored I niwed, byddai dulliau anghlinigol a ddarperir y tu allan i wasanaethau statudol yn cynyddu dewis, yn gwella mynediad ac yn annog arloesedd. Er enghraifft, gall hyfforddiant hunangymorth dan arweiniad helpu i wella sgiliau bywyd, meithrin gwytnwch, hyder a hunanwybodaeth, gan arwain at well iechyd meddwl a lles. Mae EmotionMind Dynamic (EMD), a ddatblygwyd gan Hayley T Wheeler Ltd, yn rhaglen dull cymysg newydd sy'n cynnwys hyfforddiant bywyd, mentora, sgiliau cwnsela, addysgu ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Nod:

Nod y prosiect yw datblygu tystiolaeth ar gyfer potensial therapiwtig EMD. Mae Ysgol Rhagnodi Ymchwil Cymdeithasol Cymru wedi galluogi Hayley I weithio gyda Chanolfan Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor i werthuso effeithiolrwydd EMD, gan gryfhau ei apêl fel opsiwn cyfeirio rhagnodi cymdeithasol ar gyfer Gofal Sylfaenol. Bydd arbenigwyr datblygu busnes, Speaker Insight, yn gweithio i wella sgiliau arwain Hayley a datblygu ei model busnes, gan feithrin mwy o brosesau treiddio yn y farchnad, twf busnes a chynaliadwyedd.

Yn ôl Dr Mary Lynch, Prifysgol Bangor:

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect cydweithredol hwn. Mae'r tîm o'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol, sy'n rhan o CHEME - Dr Mary Lynch, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Dr Ned Hartfiel ac Eira Winrow - yn edrych ymlaen i ymuno â Hayley Wheeler a thîm Accelerate i gynnal gwerthusiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) o'r rhaglen EMD. Dylai'r dull cydweithredol hwn rhwng academyddion a Hayley gynnig cipolwg gwerthfawr ar y dull anghlinigol arloesol hwn o fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles.”

Yn ôl Helena Holrick, Cyfarwyddwr Speaker Insight Ltd:

”Rydym yn wirioneddol edrych ymlaen i fod yn rhan o'r prosiect hwn. Yn Speaker Insight, rydym yn hyrwyddo arweinwyr meddwl a gwneuthurwyr newid sydd am helpu eraill a sicrhau effaith gadarnhaol ar y blaned. Mae ymagwedd a methodoleg Hayley yn arloesol, yn ysbrydoledig ac o bosibl yn newid bywydau, ar lefel genedlaethol a hyd yn oed yn fyd-eang. Mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â'r addewid hwnnw.”

Mae Accelerate yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect hwn drwy arbenigedd y Ganolfan Arloesi Clinigol ym maes rheoli prosiectau, gan adeiladu pecynnau gwaith amlddisgyblaethol dan arweiniad cydweithwyr arbenigol.Mae'r prosiect hwn yn ymgorffori arbenigedd ymchwil yng Nghanolfan Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor wrth gynnal gwerthusiadau Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad, arbenigedd datblygiad moesegol a masnachol Speaker Insight, a Chanolfan Arloesi a Gwella Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i hwyluso atgyfeiriadau.

Nod cydweithrediad Hayley Wheeler â'r partneriaid hyn yw datblygu ei rhaglen EMD gyda model busnes gwell a gwella ymhellach ei chydnabyddiaeth am ddarparu cymorth llesiant effeithiol, anghlinigol.

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Mynediad llwyddiannus i'r gofod ar-lein ar gyfer cymorth lles hunangymorth dan arweiniad anghlinigol
  • Mwy o gydnabyddiaeth gan gwmnïau a meithrin new da drwy ymyriadau lles sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Cyfraniad at wasanaethau lles ar-lein i gleientiaid sy'n cael eu effeithio gan bandemig COVID-19 a dysgu am ganlyniadau COVID-19 ar les emosiynol
  • Gwell gwybodaeth am y gofod lles ar-lein, gan alluogi dull mwy strategol o dargedu'r farchnad cleientiaid
  • Astudiaethau achos a chyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid

Effaith Yn Y Dyfodol

  • Ehangu busnes drwy gyflwyno EmotionMind Dynamic ar-lein, a darparu gwasanaeth estynedig
  • Cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd o gydweithio wedi’u hysgogi gan dystiolaeth rhwng partneriaid prosiect
  • Manteision amgylcheddol drwy ddarparu cymorth ar-lein a hyfforddiant bywyd, lliniaru ôl troed carbon
  • Cyfraniad at Gymru Iachach drwy well lles, gan arwain at fuddion cymdeithasol ac economaidd

Barn Hayley Wheeler am weithio gyda CIA Accelerate

“Rwy'n teimlo'n freintiedig cael gweithio gydag Accelerate a chael ei gefnogaeth. Mae wedi fy ngalluogi i bennu fy nodau a chymryd y camau cywir i'w cyflawni. Mae'n agor drysau i wneud cysylltiadau newydd yn y rhwydweithiau cywir. Rwyf bellach yn gweithio gydag ymgynghorwyr busnes sy'n diffinio fy model busnes Therapi Cysylltiad EmotionMind ar gyfer ei drwyddedu a hefyd gyda Phrifysgol Bangor, gan ymchwilio i effeithiolrwydd EmotionMind Dynamic ar waith.”

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner