Yng ngoleuni’r nifer gynyddol o bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty am resymau alcohol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) wedi datblygu gwasanaeth i helpu cleifion a delio â goryfed, gan leihau faint sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a gwella iechyd. 

Alcohol liaison team

Yr her 

Mae marwolaethau o glefyd cronig yr iau yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros yr ugain mlynedd diwethaf, a chredir mai goryfed alcohol yw un o’r prif resymau am y cynnydd hwn. Yn unol â hyn, mae nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol hefyd wedi dringo yng Nghymru – i fyny 20% yn 2021 o’i gymharu â 2019. Mae ABUHB yn un o’r Byrddau Iechyd gyda’r nifer fwyaf o bobl sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd alcohol.  

Mae addysg a chymorth yn greiddiol i ddod â’r cyfraddau hyn i lawr drwy helpu cleifion i adnabod a lleihau ymddygiad yfed afiach, sydd yn ei dro’n lleihau eu risg o gael niwed diangen.  

Mae gan dimau gofal alcohol rôl hollbwysig mewn darparu’r gwasanaethau hyn. Ond gyda’r pwysau cynyddol ar wasanaeth sy’n brin o adnoddau, ofnir y gallai nifer y bobl sy’n cael eu derbyn am resymau alcohol saethu i fyny, yn enwedig yn dilyn y pandemig wrth i bobl yfed mwy. 

Mewn ymateb i’r baich o dderbyn pobl i’r ysbyty am resymau alcohol, yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ‘chynllun darparu clefyd yr iau’ yn disgrifio strategaeth ar gyfer gwella gofal i bobl gyda’r cyflwr a lleihau’r nifer sy’n dioddef o’r cyflwr yn y lle cyntaf. Roedd rhan allweddol o’r cynllun yn cynnwys cynyddu gwasanaethau cymorth alcohol ym mhob bwrdd iechyd. 

Ar y pryd, er bod ganddo’r ail gyfradd uchaf yng Nghymru o bobl a dderbynnir i’r ysbyty oherwydd alcohol, ABUHB oedd yr unig fwrdd iechyd yn y wlad heb unrhyw wasanaethau penodol i helpu cleifion oedd yn ei ysbytai am resymau camddefnyddio alcohol.  

Ateb 

Er mwyn ceisio lleihau’r nifer gynyddol o gleifion sy’n cyflwyno gyda phroblemau cysylltiedig ag alcohol, yn 2018 lansiodd ABUHB brosiect peilot 18 mis yn sefydlu gwasanaeth cyswllt alcohol gyda thri aelod o staff yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Roedd y gwasanaeth yn rhoi cymorth i rai oedd yn mynychu’r ysbyty oherwydd anafiadau neu salwch ar ôl goryfed alcohol.  

Yn dilyn llwyddiant y treial – gyda llai o alwadau ambiwlans, llai o bobl yn mynychu dro ar ôl tro, ac arbedion cost – llwyddodd y Bwrdd Iechyd i sicrhau cyllid i ehangu’r gwasanaeth i fwy o safleoedd a chynyddu ei oriau gweithredol. 

Er i’r treial gael ei ohirio i ddechrau oherwydd Covid-19, ail-ddechreuodd y gwaith ym mis Medi 2021 gyda ABUHB yn sefydlu gwasanaeth cyswllt alcohol mwy a pharhaol. Dros y naw mis diwethaf mae’r tîm wedi tyfu gydag wyth aelod o staff erbyn hyn, yn cynnwys nyrsys arbenigol a gweithwyr cymorth, gan symud o wasanaeth pump i saith diwrnod yn Ysbyty’r Faenor. 

Cynigir amrediad o gymorth gan gynnwys cyngor un-i-un, meddyginiaeth a chyfeirio at wasanaethau tai, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau alcohol cymunedol eraill, i gyd i helpu pobl i beidio â llithro’n ôl. Mae’r tîm hefyd yn darparu addysg dan arweiniad nyrsys i glinigwyr ar draws y bwrdd iechyd ar sut i adnabod problemau alcohol posib mewn cleifion, a sut orau i reoli symptomau o dynnu’n ôl o alcohol. 

Rhoddir cymorth hefyd i dimau anaesthesia i sicrhau bod cleifion sy’n dod i’r ysbyty am lawdriniaeth yn cael eu sgrinio a’u cynorthwyo os ydynt yn gaeth i alcohol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod llawdriniaethau mor ddiogel â phosib gan leihau’r risg o gymhlethdodau a hyd yr arhosiad yn yr ysbyty. 

Bydd y gwasanaeth ehangach yn helpu ABUHB i gwrdd â galwadau ei ysbytai’n llawn a rhoi sylw i bob claf a atgyfeiriwyd, yn lle gorfod blaenoriaethu’r bobl sydd â’r angen mwyaf.  Bydd hefyd yn gadael i’r tîm gynnal apwyntiadau ôl-ddilyn a gwneud galwadau holi lles, sy’n allweddol i helpu cleifion i beidio â llithro’n ôl ar ôl gadael yr ysbyty.  

Canlyniadau 

Ar ôl sefydlu’r gwasanaeth saith diwrnod, mae ABUHB wedi mynd o fod yr unig Fwrdd Iechyd yng Nghymru heb unrhyw dîm cymorth alcohol penodol i fod yr unig un yng Nghymru gyda gwasanaeth saith diwrnod wedi’i staffio’n llawn.  

Mae’r cymorth a gynigir gan y gwasanaeth wedi helpu i leihau yfed yn niweidiol ymhlith cleifion gan leihau’r risg o gymhlethdodau iechyd, yn cynnwys clefyd yr iau a strôc, yn ogystal ag atal ail-dderbyn pobl i’r ysbyty. Yn ystod y peilot, gwelodd ABUHB leihad o 31% yn y nifer sy’n cael eu hail-dderbyn.   

Yn ogystal â’r manteision amlwg i gleifion, mae’r gwasanaeth hefyd wedi arwain at fanteision hirdymor sylweddol i’r gymuned ehangach wrth i lai o bobl gael eu derbyn i’r ysbyty ac aros llai ar ôl cyrraedd, llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu cymdeithasol cysylltiedig ag alcohol. 

Gyda thîm mwy mae’r gwasanaeth yn gallu cael mwy o bresenoldeb ar draws ysbytai, gyda rhywun yn bresennol mewn gwahanol adrannau, fel Damweiniau ac Achosion Brys, er mwyn gwreiddio eu hunain ynddynt ac addysgu staff am sut i adnabod pobl a allai fod yn cyflwyno â phroblemau cysylltiedig ag alcohol. Mae hyn yn golygu bod unigolion a allai fel arall fod wedi cael eu colli’n derbyn ymyrraeth gynnar gan eu hatal rhag cael problemau mwy difrifol yn y dyfodol. 

Beth nesaf? 

Mae’r gwasanaeth cyswllt alcohol bellach yn gweithio gyda’r tîm Gofal Iechyd Ar Sail Gwerthoedd (VBHC) yn ABUHB i gasglu a gwerthuso data cleifion er mwyn gwella ei gymorth.  

Gan edrych ymlaen, mae’n gobeithio cydweithredu â meddygfeydd ac adrannau penodol mewn ysbytai – fel y tîm codymau sy’n gweld nifer fawr o achosion oherwydd goyrfed alcohol – er mwyn darparu addysg ac adnoddau. Mae hefyd yn ystyried cynnig grwpiau adferiad cymunedol. Yn olaf, mae’r tîm wedi sicrhau cyllid i brynu ffeibro-sganiwr sy’n dangos pa mor ddrwg yw clefyd yr iau yn y claf, gan helpu i amlygu difrifoldeb problemau cysylltiedig ag alcohol ac ysgogi cleifion i newid.   

Meddai Kate Pronger, nyrs cyswllt alcohol arweiniol yn ABUHB: “Mae sefydlu ein gwasanaeth cymorth alcohol penodedig yn barod wedi cael effaith enfawr ar gleifion a’r Bwrdd Iechyd a bydd yn parhau i gael effaith yn awr ein bod wedi cyrraedd ein nod o gynnig gwasanaeth saith diwrnod.  

Mae wedi helpu i roi canlyniadau iechyd gwell i gleifion, ac mewn rhai achosion wedi atal cyflyrau rhag gwaethygu a throi’n glefyd iau difrifol. 

Mae hefyd wedi arwain at arbedion sylweddol i’r Bwrdd Iechyd gyda’r ymyrryd cynnar yn osgoi ail-dderbyn pobl a gorfod aros yn hirach yn yr ysbyty. 

“Ar yr un pryd, mae’r gwasanaeth wedi rhoi manteision pellgyrhaeddol i gleifion a’u teuluoedd na ellir eu mesur drwy ddata, ond sy’n cael effaith fawr iawn ar eu canlyniadau. Clywsom hanesion am unigolion sydd wedi ail-gysylltu ag anwyliaid, plant sy’n gwneud yn well yn yr ysgol, a phobl sydd wedi trawsnewid eu bywydau diolch i’r cymorth a gawsant gennym.” 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Pronger: kate.pronger@wales.nhs.uk