Drwy gyfuno gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, a manteisio i’r eithaf ar y defnydd o ddatblygiadau digidol, mae cyfres o gynlluniau diwygio gofal llygaid dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP Caerdydd a’r Fro) yn helpu i leihau amseroedd aros a gwella canlyniadau i gleifion sydd â chyflyrau llygaid brys.
Yr Her
Gyda phoblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio, a chysylltiadau diamau rhwng datblygu cyflyrau llygaid a chlefydau fel diabetes, mae’r galw am ofal llygaid wedi cynyddu fwyfwy dros y degawd diwethaf, gan roi pwysau cynyddol ar wasanaeth gofal iechyd sydd eisoes dan bwysau.
Roedd diffyg capasiti i ateb y galw cynyddol ac i asesu a rheoli cleifion gofal llygaid yn briodol yn y sector gofal aciwt yn golygu nad oedd cleifion yn cael eu gweld o fewn amserlenni targed. Mae Llywodraeth Cymru yn categoreiddio cleifion gofal llygaid o fewn tri band – R1, R2 ac R3 – yn dibynnu ar ddifrifoldeb eu cyflyrau, gyda chleifion R1 yn y perygl mwyaf o niwed di-droi’n-ôl neu golli golwg os bydd eu dyddiad targed yn cael ei fethu. Roedd yr oedi cyn cael eu gweld yn golygu bod cleifion R1 mewn sefyllfa fwy bregus.
Yr Ateb
I fynd i’r afael â’r mater hwn, yn 2018 cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gynllun pum mlynedd i fynd i’r afael ag amseroedd aros a chanlyniadau cleifion drwy gynyddu hyfforddiant i optometryddion a chael gofal sylfaenol a gofal eilaidd i gydweithio â’i gilydd.
Arweiniwyd y fenter gan Gareth Bulpin, Pensaer Cenedlaethol Digideiddio Gofal Llygaid GIG Cymru, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a ysbrydolwyd gan ei brofiad ef ei hun wrth wynebu heriau’r system i ddod yn ôl o’i ymddeoliad i gefnogi’r prosiect. Yn dilyn strôc, a gydag oedi cyn cael ei weld, yn anffodus collodd Gareth lygad, a rhoddodd hynny dân ac egni iddo i wella profiadau cleifion llygaid critigol eraill wrth symud ymlaen.
Ymunodd Sharon Beatty â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel Cynghorydd Optometreg y Bwrdd Iechyd, a bu’n gweithio gyda Gareth fel tîm yn helpu i gyflwyno model rhannu gofal gan ddefnyddio sgiliau optometryddion rhagnodi ar y stryd fawr, i gefnogi trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg. Er bod y syniad wedi bod yn cael ei gynllunio ers peth amser, yn sgil effeithiau’r pandemig a’r gostyngiad dilynol o 40% yn nifer y cleifion a oedd yn gallu ymweld â’r ysbyty, cafodd ei ddatblygu a’i weithredu yn gyflymach.
Roedd gan bedwar o’r 64 practis optometrig ar draws y bwrdd iechyd staff a oedd â chymhwyster Presgripsiynu Annibynnol, sy’n eu galluogi i ragnodi triniaethau.
Fel rhan o’r prosiect, defnyddiwyd y pedwar optometrydd rhagnodi hyn i symud cleifion gofal heb ei drefnu i ofal sylfaenol. Byddent yn asesu cleifion blaenoriaeth uchel o bob un o’r 64 practis ac yn defnyddio system electronig OpenEyes i lwytho delweddau i fyny a rhannu data cleifion yn ddigidol gydag ymgynghorwyr ar gyfer eu hadolygiad rhithiol a chadarnhau triniaethau. Yna, byddai achosion mwy cymhleth nad oedd modd eu trin o fewn gofal sylfaenol yn cael eu cyfeirio at ymgynghorydd, gan leihau’r angen am apwyntiadau ysbyty a sicrhau mai dim ond y rheini yr oedd angen ymyriad arnynt ar unwaith a oedd yn mynd i’r clinig llygaid brys.
Roedd hyn yn golygu bod modd rheoli a thrin y rhan fwyaf o gyflyrau llygaid gan optometryddion rhagnodi annibynnol yn y gymuned leol. Roedd hefyd yn caniatáu i ymgynghorwyr a oedd yn ynysu yn ystod COVID-19 asesu cleifion ar-lein.
Yn ogystal, cafodd pum practis optometreg eu cysylltu â chanolfannau delweddu, gan eu galluogi i gyflwyno delweddau cleifion glawcoma yn ddiogel i gael eu hadolygu gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru o bell drwy glinigau rhithwir.
Yn dilyn llwyddiant y prosiect, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cefnogi’r gwaith o hyfforddi optometryddion o bob cwr o Gymru. Mae wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i helpu i sefydlu Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru a fydd yn cynnig cyfle i Optometryddion Cymru gael Tystysgrif Uwch mewn Glawcoma a/neu Retina Meddygol a fydd yn eu galluogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau yn eu hymarfer optometreg. Bydd y cyrsiau hyn sy’n cael eu hariannu’n llawn yn rhoi lleoliadau clinigol iddynt yn y Ganolfan lle maent yn gweithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr ac uwch diwtoriaid i drin cleifion a chael profiad gwerthfawr.
Mae’r Ganolfan, ar y cyd â’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant i naw optometrydd o bob cwr o Gymru, gyda 12 arall ar fin dechrau yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae’n bwriadu ariannu 21 o leoedd eraill erbyn 2023.
Yn ogystal â’i waith yn gweithredu model rhannu gofal, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd wedi bod yn datblygu meddalwedd i ganfod achosion llygaid critigol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI). Dros gyfnod y Nadolig 2021, roedd wedi treialu’r defnydd o’i ‘system atgyfeirio electronig’ (OpenERS), a oedd yn galluogi optegwyr i gyflwyno lluniau a manylion cleifion yn ddienw yn ddigidol i gael eu sgrinio gan AI am gyflyrau patholeg llygaid. Cafodd y delweddau eu gwerthuso a’u cadarnhau o ran cywirdeb gan dri o ymgynghorwyr GIG Cymru.
Rhoddodd y prosiect 10 wythnos hwn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dystiolaeth werthfawr y bydd y dechnoleg delweddu uwch hon yn gweddnewid pethau o ran sgrinio atgyfeiriadau i’r sector aciwt yn gyflym.
Canlyniadau
Mae’r cynlluniau a weithredwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi galluogi cleifion i gael eu gweld a’u trin yn llawer cyflymach ac yn fwy effeithiol, gan osgoi’r angen i fynd i’r ysbyty mewn llawer achos. Ers eu cyflwyno (Ebrill 2020) mae nifer y cleifion R1 sy’n cael eu gweld ar amser wedi cynyddu ac ar hyn o bryd mae’n 69.1%, o’i gymharu â chyfartaledd GIG Cymru, sef 46.8% (fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ystadegau Rhagfyr 21).
Yn ogystal â gwella profiadau cleifion, mae’r cynlluniau wedi helpu i ryddhau capasiti ymgynghorwyr a lle mewn clinigau, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar drin cleifion cymhleth y mae angen gofal brys arnynt. Hyd yma, mae dros 6,500 o gleifion wedi cael eu trin mewn practisiau optometreg lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gan ryddhau capasiti yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gleifion cymhleth gael eu gweld yn gynt. I gleifion â’r cyflyrau mwy difrifol hyn, arweiniodd hyn at amseroedd aros byrrach a chaniatáu iddynt gael eu trin gan ymgynghorydd o fewn yr amserlenni targed, gan leihau’r risg iddynt ddatblygu niwed di-droi’n-ôl.
Mae hyfforddiant uwch i optometryddion wedi helpu i feithrin gwybodaeth ym maes gofal sylfaenol. Ar ôl cwblhau eu cymwysterau, mae optometryddion yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos yn eu practisiau cymunedol, sydd wedi’u lleoli ledled y wlad, gan ganiatáu iddynt rannu eu sgiliau gyda’u timau lleol, tra’n defnyddio eu harbenigedd i helpu cleifion yn uniongyrchol a lleihau amseroedd aros. Ochr yn ochr â’u gwaith cymunedol, mae’r optometryddion medrus hyn yn mynd i glinigau ysbyty un diwrnod yr wythnos, lle maent yn gallu cynnal triniaethau sy’n cynnwys pigiadau llygaid a thriniaethau laser, gan leddfu’r pwysau ar ymgynghorwyr.
Beth nesaf?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghanolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru. Ei nod yw i hanner y practisiau optometreg gofal sylfaenol yng Nghaerdydd a’r Fro gael optometryddion rhagnodi o fewn y ddwy flynedd nesaf. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn bwriadu cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r model rhannu gofal gan ddefnyddio OpenEyes ar draws gweddill y wlad.
Yn dilyn llwyddiant y prosiect AI, mae hefyd yn cynnal trafodaethau gyda dau sefydliad Byd-eang i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r dechnoleg hon ymhellach.
Wrth siarad am waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, dywedodd Gareth Bulpin:
“Mae ein cynlluniau hyd yma dros y pedair blynedd diwethaf wedi dangos cymaint o fudd y gellir ei gynnig i gleifion wrth fabwysiadu model rhannu gofal a harneisio sgiliau optometryddion a datblygiadau technolegol drwy gydweithio â’r sector aciwt, gan leihau’r pwysau ar staff gofal iechyd hefyd.
“Mae ein gwaith wedi cael effaith sylweddol ar ganlyniadau cleifion a, thrwy wella amserlenni triniaeth, mae wedi atal y rheini sydd ag achosion mwy cymhleth rhag datblygu cyflyrau mwy difrifol y mae modd eu hosgoi neu hyd yn oed golli eu golwg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y manteision ychwanegol y gallwn eu cynnig dros y flwyddyn nesaf wrth i ni arwain y gwaith o gyflwyno OpenEyes a OpenERS yn genedlaethol, a chefnogi’r gwaith o hyfforddi rhagor o optometryddion sydd â chymwysterau uchel.”
Ychwanegodd Sharon Beatty:
“Fel gweithwyr gofal llygaid proffesiynol medrus iawn ym maes gofal sylfaenol, optometryddion sydd yn y sefyllfa orau i reoli ystod o gyflyrau llygaid yn ddiogel er mwyn osgoi’r angen i gleifion weld ymgynghorydd ysbyty.
“Mae ein cynllun pum mlynedd yn cynnwys darparu cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau clinigol i alluogi optometryddion i ddarparu ystod ehangach fyth o wasanaethau yn eu practis optometreg yn nes at gartref y claf. Bydd hyn yn rhyddhau capasiti hanfodol mewn ysbytai fel mai dim ond cleifion sydd angen gofal drwy apwyntiad ysbyty sy’n mynd i'r ysbyty, a bydd posib trefnu hynny mewn modd amserol”.
I gael rhagor o wybodaeth am waith offthalmig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â Gareth Bulpin ar gareth.bulpin@wales.nhs.uk neu Sharon Beatty ar Sharon.Beatty2@wales.nhs.uk.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.