Mae prosiect partneriaeth a sefydlwyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) a Baxter Healthcare, cwmni sy’n datblygu datrysiadau technolegol arloesol ar gyfer y diwydiant gofal iechyd, wedi datblygu strategaeth i allu rhoi hylifau mewnwythiennol (IV) yn fwy diogel.

Nurse with IV fluid

Yr her

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhoi hylifau IV yn amhriodol mewn ysbytai acíwt ynghyd â diffyg cydymffurfiaeth â chanllawiau NICE yn cyfrannu’n sylweddol at afiachedd a marwolaeth cleifion mewn lleoliadau tymor byr.

Mae hylifau IV yn cael eu rhoi i mewn i wythïen drwy ddiferwyr, sy’n cynnwys dŵr, siwgr a halen. Mae’r rhain yn hylifau y gall fod eu hangen ar gleifion os byddant yn wael neu’n cael llawdriniaeth ac yn methu bwyta neu yfed fel y byddent yn arfer ei wneud.

Y datrysiad

Gan ei fod yn un o’i gyflenwyr hylifau eisoes, gwahoddodd BIPCTM Baxter i gydweithio ar brosiect gwella gyda’r nod o wneud y broses o roi hylif IV yn fwy diogel yn ogystal â gwell cydymffurfiaeth â chanllawiau NICE o fewn timau gwella ansawdd amlddisgyblaethol mewn wardiau.

Arweinydd y prosiect yw Dr Helen Lane, Meddyg Ymgynghorol a Chynghorydd Gwella a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt gyda BIPCTM, a Dr Huw Davis, Anesthetydd Ymgynghorol a CSG arweiniol ar gyfer Gofal Critigol, Llawfeddygaeth ac Anestheteg.

Meddai Dr Helen Lane:

“Mae hwn yn brosiect gwella y mae angen dirfawr amdano. Ar hyn o bryd, nid yw rhoi hylifau’n rhywbeth sydd wedi’i safoni’n gyffredinol nac yn rhywbeth sy’n cael ei ddysgu i feddygon iau.

“Ein nod yw sicrhau bod hylifau IV yn cael eu rhoi mewn ffordd mor ddiogel â phosibl i bob claf. Rydym am weld y newid hwn yn cyrraedd pob cam o’r gadwyn er mwyn addysgu meddygon, nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd yn well. Mi all y newid ymddygiadol rydym am ei weld wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau i gleifion ledled Cymru.”

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nifer o elfennau allweddol y mae angen eu gwella. Mae’r rhain yn cynnwys rhagnodi, archebu, storio, rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn ac addysg ar sut i roi lefelau mwy diogel o hylifau IV.

Roedd y dulliau a ddefnyddiwyd i wella’r meysydd hyn yn cynnwys datblygu canllaw presgripsiynau a chynnig addysg uwch – addysgu ar lefel graddfa myfyrwyr meddygaeth i sicrhau gwell dealltwriaeth o weithdrefnau rhagnodi cyn mynd i ysbytai. Defnyddiwyd anogwyr gweledol hefyd gan gynnwys labeli lliw i’w gwneud yn haws i’w hadnabod a bwrdd stori digidol i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn ymhlith staff ysbytai.

Y canlyniadau

Arweiniodd astudiaeth beilot ar wardiau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg at ad-drefnu’r ystafell stoc hylifau IV i gael trefn fwy priodol o swbstradau a dangosyddion a oedd yn cyd-fynd â chanllawiau NICE. Roedd mwy o arwyddion yn cael eu harddangos, a oedd yn cynnwys system o godau lliw ar gyfer y gwahanol fathau o hylifau IV a ddefnyddir i ddadebru, newid neu gynnal. Roedd y profion newid yn dangos gwelliannau cyson mewn cydymffurfiaeth â chodau priodol yr hylifau IV ac o ran monitro cydbwysedd hylifau.

Mae gwella sut y rhoddir hylifau’n un maes effaith yn unig sy’n dangos canlyniadau positif y prosiect i roi hylifau IV yn fwy diogel. Y nod, pan fydd wedi’i ddatblygu’n llawn, fydd cyflwyno’r prosiect ym mhob rhan o BIPCTM, gan arwain at ragnodi mwy priodol a chanlyniadau gwell i gleifion.

Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad ehangach yn BIPCTM i annog gwelliannau mewn amrywiaeth o lwybrau clinigol a gwasanaethau yn unol â’r amcanion a geir yn Dyfodol Iachach i Gymru – cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd creu’r cyfleuster Arloesi Cwm Taf Morgannwg (iCTM) yn helpu i gyflawni’r amcanion hyn.

Rhagor o wybodaeth Am ragor o fanylion am y prosiect, cysylltwch â Dr Helen Lane, Helen.A.Lane@wales.nhs.uk neu Rachel Heycock, Rachel.H.Heycock@wales.nhs.uk.