Hyd: 16 mis

Partneriaid/Rhanddeiliaid: Armadillo Metal Coatings Ltd, Dusk Water Ltd, Y Mint Brenhinol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd

Nod: Profi, gwerthuso a dilysu'r defnydd o haenau wyneb metelaidd ar gyfer diheintio wynebau

Example of a door push plate installed in Cwm Taf Morgannwg University Health Board Sites

Mae’r angen i ddiheintio wedi bod yn bwysig erioed mewn lleoliadau clinigol ac anghlinigol, er y gallai cydymffurfio â diheintio wynebau fod yn brin. Yn anffodus, mae COVID-19 wedi cynyddu’r angen er mwyn lleihau trosglwyddiad y firws. Dangosodd rhai astudiaethau y gallai'r firws SARS-CoV-2 oroesi ar wynebau dur di-staen am mor hir â 3-7 diwrnod. Ar fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml, fel drysau, mae yna risg gynyddol o drosglwyddo'r firws.

Mae corff presennol o dystiolaeth yn dangos bod gan elfennau metelaidd fel copr nodweddion gwrth ficrobaidd. Er enghraifft, mae microbau megis bacteria a firysau sy’n dod i gyswllt ag wynebau copr yn cael eu lladd o fewn oriau, gelwir hyn yn lladd cyswllt.

Gan adeiladu ar yr wybodaeth hynny, mae prosiect unigryw, cydweithredol yn cael ei gynnal rhwng diwydiant, gofal iechyd ac academia i brofi, gwerthuso a dilysu’r potensial o gyfuno haenau newydd gwrth bylu gyda wynebau metelaidd i wella effeithiolrwydd lladd yr wynebau sy’n dod i gyffwrdd â microbau, gan gynnwys y firws SARS-CoV-2.

Gallai technoleg o’r fath fod o fudd ychwanegol mewn mannau clinigol defnydd cyson, ac mae’n ceisio gwella eu hymarferoldeb trwy leihau effeithiau pylu. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso pa mor fasnachol yw’r canlyniadau ac yn cwblhau dadansoddiad dichonoldeb y farchnad.

Mae Cyflymu'n cefnogi darparu'r prosiect arloesol hwn trwy arbenigedd academaidd Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i ba mor effeithiol yw cyfuno haenau newydd gyda wynebau metelaidd (copr, efydd a chopr gwrth bylu) am eu nodweddion gwrth bacteria a gwrth firws, a chydag Arloesedd Clinigol Cyflymu’n rheoli’r prosiect. Bydd hyn yn cyd-fynd ag arbenigedd diwydiannol y Mint Brenhinol mewn cynhyrchu copr, ac arbenigedd Armadillo Metal Coatings mewn technoleg gwrth bylu. Bydd priodoldeb masnachol yn cael ei reoli gan Dusk Water, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu’ amgylchedd ysbyty ar gyfer gosod platiau gwthio ar ddrysau ac mae angen y cysylltiad gyda’r bwrdd iechyd i weithredu’r canlyniadau.

Example of the door push plates in Cwm Taf Morgannwg University Health Board sites

Enghreifftiau pellach o blatiau gwthio ar ddrws a osodwyd ar safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Dilysu'r defnydd biofeddygol o haenau copr i ladd bacteria firysau mewn amgylcheddau gwaith a domestig.
  • Gwella ymarferoldeb defnyddio metel ar gyfer defnydd o ddydd i ddydd, trwy ddefnyddio haenau gwrth bylu
  • Data dadansoddi’r farchnad a hyfywdra masnachol
  • Ffordd o gysylltu’n fasnachol gyda’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru
  • Darpar dechnoleg gwrth ficrobaidd newydd i leihau heintiau sy’n cael eu codi yn yr ysbyty
  • Astudiaethau achos
  • Cyhoeddiadau'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid ac adroddiadau i'r rhannu gyda'r cyhoedd

Effaith Yn Y Dyfodol

  • Masnacheiddio’r cynnyrch terfynol
  • Potensial o gais am batent
  • Cynnydd mewn twf diwydiannol a chyflogaeth
  • Cyfleoedd i bartneriaid y prosiect gydweithio ymhellach
  • Cyfrannu at Gymru Iachach
  • Darparu ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

I ddysgu mwy am brosiectau diweddaraf Armadillo Metal Coatings Ltd, ewch i'w gwefan.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner