Hyd: 14+ mis

Partneriad: Huntleigh Healthcare, Prifysgol Caerdydd a’r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau

Nod: Cynnal gwerthusiad clinigol o Wound Express, dyfais cywasgu niwmatig cyfnodol ar gyfer cleifion gyda briwiau cronig ar y coesau

WoundExpress.com image of patient with leg stapping

Ffurf o sawl haen raddedig o rwymau yw therapi cywasgu, y therapi safonol safon aur ar gyfer rhwystro a rheoli briwiau gwythiennol ar goesau. Fodd bynnag, nid yw cyfran o friwiau’n gwella ac mae’n rhaid i gleifion ddioddef gwisgo rhwymau tynn yn barhaus.

Mae Cywasgu Niwmatig Ysbeidiol yn driniaeth moddolrwydd amgen/atodol a ddangoswyd sy'n trin briwiau ar y goes yn effeithiol. Mae Cywasgu Niwmatig Ysbeidiol yn golygu gosod pwysau cylchol wedi’i reoli’n fecanyddol ar yr aelodau (neu rannau o’r aelodau) gydag aer wedi’i gywasgu o bwmp yn cael ei weithredu’n electronig trwy rwymau arbenigol. Mae’r cylchoedd pwysau a chwythu'n amrywio a gellir gosod pwysau ar yr aelod cyfan neu ar ran o'r goes.

Dangoswyd fod rhai mathau o Gywasgu Niwmatig Ysbeidiol yn annog briwiau ivwella, a bod llai o boen cronig o ganlyniad. Fodd bynnag, mae dyfeisiadau Cywasgu Niwmatig Ysbeidiol, fel arfer, yn rhoi pwysau ysbeidiol cymharol uchel ar safle’r briw, a allai beri pryder i gleifion ac i glinigwr, gallai amharu ar driniaeth bresennol ac nid yw bob amser yn hawdd ei ddioddef.

Mae Huntleigh wedi datblygu dyfais Cywasgu Niwmatig Ysbeidiol arloesol (WoundExpress) sy’n gosod pwysau ar glun y goes sy’n dioddef, ac nid lle mae'r briwiau ar y goes. Mae’r ddyfais yn cynnwys dilledyn clun tair siambr, a phwmp cywasgu niwmatig gyda chylch cywasgu pedwar munud sy'n cynnwys cyfnod dau funud o wagio gwythiennol ac yna gyfnod gorffwys o ddau funud. Mae’n cael ei ddefnyddio am ddwy awr y dydd mewn ysbyty, yn y gymuned neu yng nghartref y claf.

Awgryma canfyddiadau cychwynnol y gallai WoundExpress fod yn effeithiol mewn lleihau poen a hyrwyddo gwella. Fodd bynnag, hap-dreialon rheoli yw’r safon aur ar gyfer canfod pa mor effeithiol a diogel yw triniaeth ac i ddangos a yw triniaeth newydd yn well. Dyma’r cam pwysig nesaf i WoundExpress.

I benderfynu beth yw effaith y driniaeth hon ar friwiau gwythienol cronig ar y goes, mae Hap-dreial Rheoli newydd wedi dechrau recriwtio cleifion a bydd yn ystyried a yw'r dull newydd yn rhoi buddion ychwanegol wrth ei ddefnyddio gyda thriniaethau safonol presennol Bydd yn gweithredu mewn pedair gwlad ac ar hyd at 10 safle yn y DU ac Ewrop i asesu'r dystiolaeth feddygol o blaid dyfais WoundExpress™

Mae cefnogaeth Cyflymu yn galluogi IPCOTT, i gynnal Hap-Dreial Rheoli gyda chleifion gyda briwiau cronig ar eu coesau gyda venous aetiology. Bydd hyn yn:

  • Tynnu’r risg o’r cam at dreialon clinigol ar gyfer Huntleigh
  • Cyflwyno arbenigedd treialon clinigol/rheoli prosiect
  • Cefnogi darparu gwerthusiad cynhwysfawr.

Bydd astudiaeth o’r fath o gymorth i broffesynolion gofal iechyd, grwpiau comisiynu clinigol ayb i gymryd penderfyniadau gwybodus ynghylch a fyddai’r ddyfais yn rhoi gwell canlyniadau i gleifion gyda briwiau cronig ar y coesau.

Compression Therapy Kit from WoundExpress.com

Delwedd trwy gwrteisi WoundExpress.com

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Cyflwyno technoleg ymyrrol newydd i faes gwella briwiau
  • Gwella rheolaeth o friwiau cronig ar goesau i glinigwr a chleifion, trwy leihau'r gofyn am wasanaethau clinigol, a helpu i wella rheoli poen, y gallu i symud a llesiant
  • Data ar gyfer cydweithredu pellach mewn ymchwil academia - diwydiant
  • Tŵf Economaidd
  • Cynhyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes rheoli briwiau ar y goes
  • Asesiad economaidd iechyd

Effaith Yn Y Dyfodol

  • Cydweithredu yn y dyfodol rhwng partneriaid mewn diwydiant, academia a chlinigol
  • Cyfle i ystyried defnyddio cywasgu niwmatig ysbeidiol i reoli mathau eraill o friwiau cronig.

I ddysgu mwy am brosiectau diweddaraf WoundExpress'.coms' ewch i'w gwefan.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner