Hyd: 1 mis

Partneriad: Quay Pharma a Phrifysgol Caerdydd

Nod: Sefydlu dull ar gyfer profi gweithrediad cyfnod hir yn erbyn firysau a phrofi perfformiad nifer o fathau o ddiheintiadau dwylo gan ddefnyddio SARS-CoV-2

Quay Pharma Logo

Daeth defnyddio diheintyddion yn rhan gynyddol bwysig o fywyd pob dydd pobl. Mae effaith COVID wedi atgyfnerthu’r angen i fabwysiadu dulliau o ddiheintio sy’n gallu lladd y firws sydd hefyd yn gallu lladd.

Er bod yna amrywiaeth o ddiheintyddion dwylo ar gael, a bod yna gorff cynyddol o dystiolaeth y tu ôl i’r paramedrau sydd eu hangen i fod yn effeithiol yn erbyn y firws SARS-CoV-2, gallai dangos effeithiolrwydd yn y tymor hir fod yn gyfle i wneud mwy o argraff ar iechyd cyhoeddus.

Mae Quay Pharma wedi datblygu nifer o ffurfiau newydd o ddiheintyddion dwylo sy’n ateb y gofyn am fod yn effeithiol yn erbyn y firws yn y tymor hir. Mae hynyn awgrymu y gallai’r diheintyddion hyn gynnig amddiffyniad am hyd at 8 awr.

I ganfod pa mor effeithiol yw diheintyddion dwylo Quay Pharma wrth ladd firysau yn y tymor hir ac yn erbyn y firws SARS-CoV-2, mae Prifysgol Caerdydd a Quay Pharma yn cynnal prosiect ar y cyd i gyd-ddatblygu ac optimeiddio methodoleg newydd ar gyfer profi diheintyddion dwylo tymor hir ac yna gadarnhau ac optimeiddio perfformiad y ffurfiau newydd.

Mae Cyflymu yn cefnogi rhedeg y prosiect arloesol hwn gydag arbenigedd Prifysgol Caerdydd mewn firoleg, eu darpariaeth o adnoddau labordai penodol lefel 3 a’u profiad o drin y firws SARS-CoV-2. Bydd Quay Pharma yn cyfrannu eu harbenigedd masnachol a ffarmacolegol i’r prosiect cydweithredol hwn, yn ogystal â chyflenwi eu diheintyddion dwylo. Bydd Arloesedd Clinigol Cyflymu’n darparu rheolaeth prosiect i gefnogi’r tîm i gyrraedd canlyniadau’r prosiect yn y cyfnod byr hwn.

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Datblygu dull dibynadwy ar gyfer gwerthuso gweithrediad gwrth firws diheintyddion dwylo effaith tymor hir
  • Data effeithiolrwydd ar gyfer perfformiad estynedig y diheintyddion dwylo hyn yn erbyn firws SARS-CoV-2
  • Cyhoeddiadau’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid

Effaith Yn Y Dyfodol

  • Gallai effeithiolrwydd yn erbyn y firws SARS-CoV-2 ymestyn y farchnad ar gyfer Quay Pharma
  • Gwell gwytnwch diwydiannol trwy ddatblygu portffolio o gynnyrch
  • Cyfleoedd i bartneriaid y prosiect gydweithio ymhellach
  • Effeithiau ar iechyd cyhoeddus dros Gymru gyfan a thu hwnt
  • Portffolio ymchwil estynedig mewn SARS-CoV-2 ar gyfer y Brifysgol

I ddysgu mwy am brosiectau diweddaraf Quay Pharma, ewch i'w gwefan.