Gyda phwyslais ar ddull seiliedig ar werth, mae llwybr newydd wedi’i ddatblygu ar gyfer cleifion â methiant y galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB), sy’n dangos sut y gall nyrsys arbenigol wella llesiant cleifion, gwella canlyniadau a lleihau’r niferoedd sy’n cael eu derbyn i ysbyty gyda methiant y galon, a thrwy hynny arbed bywydau.

illustration of a heart inside someone's chest.

Yr her

Mae’r tîm methiant y galon dan arweiniad nyrsys yn ABUHB yn darparu gwasanaeth i gleifion gyda diagnosis o Fethiant y Galon gyda Ffracsiwn Alldafliad Llai (HFrEF) – cyflwr cronig a nychus sy’n cael ei nodweddu gan anallu ochr chwith y galon i bwmpio gwaed o’r corff gystal ag y dylai.

Mae cleifion â’r cyflwr hwn yn cyfrif am 60% o’r holl dderbyniadau ysbyty gyda methiant y galon ac mae hwn yn grŵp risg uchel, sy’n cael effaith negyddol ar eu llesiant yn ogystal â golygu costau ariannol sylweddol i’r GIG, sy’n cyfrif am 1-2% o’i gyllideb blynyddol.

Mae diagnosis cyflym ac optimeiddio meddyginiaeth yn gynnar yn hanfodol i leihau cyfraddau aildderbyn, ac i wella ansawdd bywyd a rhagolygon cleifion. Mae gwasanaeth ABUHB, sy’n cael ei arwain gan nyrsys arbenigol methiant y galon sy’n rhagnodi, yn optimeiddio meddyginiaethau ac yn cynnig dull cyfannol i alluogi cleifion a gofalwyr i reoli’r cyflwr.

I wella canlyniadau i gleifion, mae’r canllaw yn cynghori apwyntiad dilynol ag arbenigwr o fewn pythefnos ac y dylai meddyginiaeth gael ei hoptimeiddio o fewn chwe mis i’r diagnosis cyntaf.

Fodd bynnag, oherwydd pwysau ar y bwrdd iechyd, a gyda niferoedd cynyddol o gleifion yn cyflwyno gyda HFrEF, nid oedd modd i’r tîm a oedd yn cael ei arwain gan nyrsys gyrraedd y targedau hyn. Yn yr un modd, heb system e-atgyfeirio ar waith, roedd nyrsys yn ddibynnu ar weithio’u ffordd drwy gopïau papur o atgyfeiriadau cleifion, ac roedd hynny’n ychwanegu ar yr oedi.

Oherwydd hyn, roedd cleifion yn aros am gyfartaledd o 62 diwrnod ar ôl eu rhyddhau o ysbyty am eu hapwyntiad cyntaf fel cleifion allanol. Ac roedd yn cymryd blynyddoedd yn hytrach na misoedd i optimeiddio eu meddyginiaeth, ac roedd gan hynny oblygiadau posibl i’w hiechyd a’u llesiant, ac roedd hefyd yn cynyddu’r galw am ofal brys.

Y datrysiad

I fynd i’r afael â’r heriau a oedd yn eu hwynebu, bu’r tîm nyrsys yn gweithio ag adran Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) ABUHB i ddatblygu llwybr newydd i gleifion gyda phwyslais ar adroddiadau ar ganlyniadau cleifion a chlinigol. Bu’r treial yn edrych yn benodol ar gleifion a ryddhawyd o ofal cardioleg acíwt gyda diagnosis o HFrEF yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Fel rhan o’r prosiect, cafodd system e-atgyfeirio ei chyflwyno, gan sicrhau bod yr holl atgyfeiriadau’n cael eu cyfeirio i un pwynt mynediad i gael eu hadolygu gan nyrs brofiadol. Roedd dull digidol o’r fath yn sicrhau bod apwyntiadau’n cael eu blaenoriaethu a bod achosion mwy cymhleth a brys na allai’r tîm nyrsys ddelio â hwy, yn cael eu trosglwyddo i gardiolegyddion ar unwaith.

Drwy’r gwasanaeth, roedd cleifion yn cael galwad gan nyrs o fewn pythefnos ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty ac a oedd yn cael ei dilyn gan apwyntiad wyneb yn wyneb i asesu eu meddyginiaeth a’u symptomau.

Cafodd hyb cymunedol ei sefydlu hefyd, gan osgoi’r angen i gleifion risg isel fynd i ysbyty i optimeiddio eu meddyginiaeth. Roedd y clinig lleol hwn yn galluogi cleifion i gael eu gweld a’u trin yn gyflymach, gan wella eu hansawdd bywyd a’u rhagolygon tymor hir. Ar yr un pryd, roedd cleifion yn mynychu sesiynau adsefydlu cardiaidd, gan olygu eu bod yn manteisio ar ‘wasanaeth un stop’ lle’r oedd meddyginiaeth methiant y galon yn cael ei hoptimeiddio ochr yn ochr â dosbarthiadau ymarfer corff yn y gymuned.

Drwy gydol y treial, bu ABUHB yn cofnodi Mesurau Canlyniadau a Phrofiadau a Adroddir gan Gleifion (PROM a PREM) – sy’n casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan gleifion am eu profiad o’r gwasanaeth iechyd – i’w helpu i ddeall y prif heriau a buddiannau, yn ogystal â goleuo penderfyniadau yn y dyfodol. Cafodd Mesurau Canlyniadau Clinigol a Adroddir (CROM) hefyd eu cwblhau gan Nyrsys Methiant y Galon, a oedd yn helpu i fesur a oedd yr ymyriad clinigol yn gwella canlyniadau i gleifion dros amser.

Canlyniadau

Cynhaliwyd y treial rhwng mis Hydref 2020 a mis Hydref 2021, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd 145 o gleifion ac fe’u rhoddwyd drwy’r llwybr newydd. Roedd y dull VBHC newydd wedi helpu i symleiddio’r holl system atgyfeirio, gan leihau amseroedd aros a rhyddhau capasiti yn y GIG, a arweiniodd yn y pen draw at wella profiadau a chanlyniadau cleifion.

Roedd y prif ganlyniadau’n cynnwys:

  • Cafodd pob claf eu hapwyntiad cyntaf o fewn pythefnos – (o’i gymharu ag wyth wythnos yn flaenorol)

  • Amseroedd aros rhwng yr apwyntiad cyntaf a’r ail wedi’u haneru – cafodd pob claf y ddau apwyntiad o fewn 35 diwrnod Roedd optimeiddio meddygol wedi’i leihau o flynyddoedd i rhwng 4 a 6 mis

  • Roedd atgyfeiriadau amhriodol at y tîm nyrsys yn cael eu canfod yn gyflym a’u trosglwyddo i ofal priodol, gan ryddhau capasiti nyrsys a sicrhau bod achosion difrifol yn cael eu gweld gan arbenigwr yn gyflymach

  • Roedd clinig cymunedol ynghyd ag adsefydlu cardiaidd yn gwella canlyniadau cleifion ac yn gwneud y gorau o adnoddau’r ddau wasanaeth

  • Cafodd cyfraddau aildderbyn 30 diwrnod eu lleihau – ni chafodd 97% o gleifion yn y treial eu haildderbyn gyda phrif ddiagnosis o fethiant y galon

  • Arweiniodd lleihad yn y niferoedd sy’n cael eu haildderbyn at arbedion cost i’r GIG

  • Bu cynnydd o 10% i 60% yn y canlyniadau a adroddwyd gan gleifion a gwblhawyd.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae ABUHB yn gobeithio sefydlu gwasanaeth nyrsys arbenigol methiant y galon i gleifion mewnol yn ysbytai ABUHB, a fyddai’n galluogi nyrsys i weld cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio atynt cyn gynted ag y byddant yn cael eu derbyn, gan gyflymu amserlenni triniaethau ymhellach.

Wrth siarad am y prosiect, meddai’r Nyrsys Arbenigol Methiant y Galon yr ABUHB: “Mae’r prosiect hwn wedi dangos buddiannau pendant defnyddio nyrsys methiant y galon arbenigol i gleifion ac i’r gwasanaeth iechyd yn fwy cyffredinol.

“Drwy ddefnyddio’r system atgyfeirio ddigidol yn ein gwasanaeth dan arweiniad nyrsys, rydym wedi lleihau amseroedd aros yn sylweddol ac wedi sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn y targedau. Mae hyn wedi gwella profiadau pobl sy’n byw â methiant y galon o ofal yn ogystal ag ansawdd eu bywyd.”

“Rydym mor awyddus i gefnogi mentrau VBHC ac rydym yn bwriadu parhau i gydweithio’n glos â’r tîm VBHC i wella ein heffeithlonrwydd. Bydd casglu PROM, PREM a CROM yn hanfodol i helpu i ffurfio ymarfer clinigol y dyfodol. Byddant yn ein helpu i werthuso a gwella ein gwasanaeth drwy ein galluogi i wneud newidiadau ystyrlon sy’n seiliedig ar adborth gan y cleifion eu hunain.”