Gan weithio gyda thîm o feddygon a pheirianwyr o Brifysgol Abertawe Technoleg Gofal Iechyd, mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) PCDDS wedi cynllunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu’n gyflym o gydrannau lleol ac – yn hollbwysig – y gellir ei ddefnyddio hyd yn oed gyda chleifion sydd ag achos difrifol o’r coronafeirws.

 

Dr John Dingley demonstrates the CoronaVent in UWTSD's ATiC Research Centre.

Hyd yma, roedd peiriannau anadlu yn gallu bod y naill neu’r llall, ond nid y ddau.

Mae’n bosibl adeiladu’r cynllun newydd, y CoronaVent-One, yn hawdd o gydrannau generig a phaneli plastig.

Yn ogystal ag achub bywydau, bydd y cynllun newydd yn helpu i greu swyddi a hybu adferiad economaidd gan fod y galw byd-eang am beiriannau anadlu’n debygol o aros yn uchel wrth i’r pandemig barhau.

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Cyfarwyddwr ATiC a Phrofost Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe:

“Mae datblygu’r CoronaVent-One yn enghraifft ragorol o gydweithio rhwng dwy brifysgol Abertawe, y bwrdd iechyd a phartneriaid diwydiant. Mae ein tîm cyfunol wedi gweithio bob awr o’r dydd a’r nos dros y ddeufis diwethaf gan ddangos ymrwymiad diflino i ymateb i her iechyd byd-eang mwyaf y cyfnod, sy’n bwysig i ni i gyd.”

Arweinir y tîm y tu ôl i’r cynllun newydd gan Dr John Dingley a Dr Dave Williams, anesthetyddion ymgynghorol yn y GIG gyda rolau addysgu yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe. Yn 2008, mewn ymateb i bandemig SARS, cynllunion nhw ac adeiladu peiriant anadlu cost isel, hynod o effeithlon i’w ddefnyddio’n eang ac roedd modd ei adeiladu o gydrannau oedd ar gael yn rhwydd.

Mae’r tîm hefyd yn cynnwys arbenigwyr o dîm ASTUTE 2020 yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe, sydd ill dau’n rhan o Accelerate, ynghyd â phartneriaid diwydiant.

Cyllidir Accelerate ar y cyd gyda £24 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru, yr Hyb Gwyddorau Bywyd a byrddau iechyd. Mae’r rhaglen yn sbarduno ymchwil o’r radd flaenaf gan drosi syniadau arloesol yn gynhyrchion a gwasanaethau newydd i wella iechyd a lles pobl sy’n byw yng Nghymru.

Mae peiriannau anadlu’n hanfodol wrth drin llawer o gleifion Covid19, gan eu helpu i anadlu yn ystod eu triniaeth. Ym mis Mawrth cyhoeddodd y Prif Weinidog

Boris Johnson alwad agored am 30,000 o beiriannau anadlu o fewn pythefnos i drin y nifer fawr o gleifion disgwyliedig yn sgil pandemig Coronafeirws.

Y broblem yw bod cynlluniau sydd eisoes yn bodoli naill ai’n gallu cael eu hadeiladu’n gyflym, neu’n gallu trin achosion cymhleth, ond nid y ddau.

Dim ond cleifion gyda mân anafiadau i’w hysgyfaint sy’n gallu cael eu trin gyda pheiriannau sy’n cael eu hadeiladu’n gyflym. Ar y llaw arall, mae angen llawer o gydrannau gwahanol ar y modelau cyfredol hynny sy’n addas ar gyfer achosion mwy cymhleth, ac mae’n amhosibl adeiladu nifer fawr yn gyflym gan fod y cydrannau meddygol yn anodd iawn eu cael ar hyn o bryd oherwydd y galw.

Dyma lle mae peiriant anadlu newydd y tîm yn Abertawe’n wahanol. Mae ei gynllun, dan arweiniad Cymrawd Arloesi ATiC, Nick Thatcher, wedi’i optimeiddio i gynnig y gorau o’r ddau fyd.

ATiC yw cyfraniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i Accelerate. Cyllidir Accelerate ar y cyd drwy Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru a byrddau iechyd, ac mae’n helpu mentrau i drosi syniadau arloesol yn dechnoleg, cynhyrchion a gwasanaethau i’r sector iechyd a gofal.

Mae’n bosibl adeiladu’r CoronaVent yn gyflym ac yn rhad mewn niferoedd mawr gan fod yr holl gydrannau’n rhai generig a bod modd eu gweithgynhyrchu’n lleol. Nid yw’n dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol hir, fydd yn galluogi i ddiwydiant Cymru adeiladu gwydnwch tymor hir i ymateb i heriau iechyd y dyfodol. Hefyd gall redeg o unrhyw ffynhonnell o ocsigen, nid dim ond cyflenwad ysbyty, a gall amrywiaeth eang o weithgynhyrchwyr ei adeiladu, nid cwmnïau awyrofod yn unig.

Ar yr un pryd, mae’r CoronaVent hefyd yn ymgorffori’r moddau gweithredu soffistigedig sydd eu hangen i drin cleifion gyda haint Coronafeirws difrifol, a fyddai fel arfer ond i’w gweld ar beiriannau’n costio llawer iawn mwy.

Mae cyfrifiadur bach gyda phanel arddangos hawdd ei gael yn caniatáu rheolaeth lawn ar y prif baramedrau ar gyfer trin claf â CoVid-19.

Dywedodd Dr John Dingley:

“Mae cyfraddau heintio Coronafeirws yn y wlad hon yn sefydlogi ar hyn o bryd. Fodd bynnag mae disgwyl tonnau pellach o’r Coronafeirws a heintiau feirysol pandemig eraill dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’n hanfodol fod digon o gyflenwadau o beiriannau anadlu gyda’r gofynion angenrheidiol ar gael. Mae angen byd-eang hefyd am beiriannau anadlu cost isel a manyleb uchel mewn gwledydd eraill y mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw.”

Ychwanegodd Dr Dave Williams:

“Gellir cynhyrchu’r CoronaVent yn y DU gan ddarparu swyddi gwerthfawr a diwydiant allforio yn wyneb dirwasgiad economaidd byd-eang.”

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ASTUTE 2020 yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe:

“Mae’r CoronaVent yn cynnig y gorau o ddau fyd: syml a hawdd ei adeiladu, ond addas hyd yn oed ar gyfer achosion cymhleth o’r coronafeirws. Mae’r gwaith o’i ddatblygu wedi bod yn ymdrech tîm go iawn – meddygon, peirianwyr, dylunwyr a phartneriaid busnes. Gobeithio y bydd partneriaid newydd yn ymuno â ni i’w symud ymlaen, er mwyn i ni allu ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl, gan greu swyddi ac achub bywydau.”

Bu tîm ASTUTE 2020 yn gweithio oriau hir i chwilio am ddatrysiadau arloesol gyda chymorth llawn tîm gweithdy peirianneg y Coleg, ac yno y cynlluniwyd ac y gwnaed darnau o fewn 24 awr yn gyson, yn cynnwys dros y penwythnos. Yn ystod y gwaith datblygu roedd lefel anhygoel o egni yn y tîm.