Hyd: 12 mis
Partneraid: Ambiquire, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Phrifysgol Caerdydd.
Nod: Creu patrwm triniaeth newydd a fydd yn rhoi data dadansoddi symudiad gwrthrychol i glinigwyr a chleifion i helpu i lywio therapi ar gyfer unigolion sydd â phoen yn eu pen-glin
Cyflyrau cyhyrysgerbydol yw'r prif gyfrannwr at boen cronig ac anabledd, gyda phoen yn y ben-glin ymhlith yr achosion mwyaf cyffredin ymysg gleifion. Mae ffisiotherapi yn chwarae rhan bwysig yn y broses adsefydlu ar ôl anaf neu glefyd; fodd bynnag, mae monitro cynnydd cleifion yn aml yn dibynnu ar farn glinigol, ac adborth gan gleifion. Mae gan dechnoleg y potensial i ddarparu data gwrthrychol i gyflymu’r broses adsefydlu, ond mae angen gwneud rhagor o waith i drosi ei ddefnydd o labordai symudiad i gartrefi cleifion a chlinigau'r GIG
Mae Grŵp Ymchwil Ymyrraeth Ffisiotherapi Synhwyrydd (SPIN) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i sut y gall synwyryddion biomeol gwisgadwy chwarae rhan wrth ddarparu asesiad gwrthrychol ac adborth ar symudiad cleifion. Gellid defnyddio technoleg o'r fath i ategu dull cyson o arwain triniaeth a mesur newid.
Datblygodd Ambiquire, cwmni o Dde Cymru, ddyfais micro-wisgadwy (uned mesur inertiaidd) sy'n gallu caffael a ffrydio data "symudiad" amser real yn ddi-wifr.
Mae'r prosiect hwn yn ceisio dod â thechnoleg synhwyrydd symudiadau ynghyd â data biomeol ac arbenigedd clinigol wedi'i wreiddio i ddatblygu cynnyrch syml a fforddiadwy i roi adborth ar symudiad gwrthrychol i gleifion a ffisiotherapyddion. Y bwriad yw cyflawni hyn drwy’r canlynol:
- Datblygu algorithmau dysgu peirianyddol i feintioli'r paramedrau biomeol gan ddefnyddio unedau mesur inertiaidd Ambiquire sengl neu luosog (IMUs).
- Datblygu rhyngwyneb ar y we ar gyfer clinig biomeol a defnydd gartref
Yn ôl Steve Gardner - Rheolwr Gyfarwyddwr Ambiquire
"P'un ai a ydych wedi cael anaf chwaraeon, yn gwella o lawdriniaeth neu'n mynd yn hŷn, gall poen yn y cymalau wedi’i ysgogi gan symudiad fod yn gwbl wanychol. Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon, mae rhaglen Accelerate wedi darparu dull ardderchog o hwyluso'r broses gydweithio rhwng peirianwyr blaenllaw Ambiquire ac ymchwilwyr Bio- Fecanyddol arbenigol a chlinigwyr Iechyd Egnïol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gan gyfuno dyfeisiau mesur electronig diweddaraf Ambiquire, dadansoddeg data a thechnegau casglu Deallusrwydd Artiffisial, nod y bartneriaeth yw datblygu system newydd i alluogi ymyriadau "sy'n benodol i gleifion" gael eu cynllunio a'u monitro'n effeithiol o bell yn eu cartref.”
Yn ôl Dr Kate Button - Ffisiotherapydd ac arweinydd Ymchwil a Datblygu ar gyfer Therapïau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyfarwyddwr Llywodraethu Ymchwil ac Arweinydd Thema Ymchwil Iechyd Gweithredol, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd
"Mae poen yn y cymalau yn gyflwr cyffredin ac amcangyfrifir bod gan 23% o unigolion dros 45 oed yng Nghymru osteoarthritis yn y glun a’r pen-glin. Er mwyn i ffisiotherapyddion fonitro a rhoi adborth ar sut mae pobl yn symud ac yn cynnal eu hymarferion gartref mae gan hyn y potensial i drawsnewid triniaeth a sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r unigolion hyn”
Mae Accelerate yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect cydweithredol hwn drwy arbenigedd academaidd Prifysgol Caerdydd a sicrhau darpariaeth rheoli a hwyluso prosiectau drwy'r Clinical Innovation Accelerator.
Bydd Ambiquire yn dod â'i arbenigedd i'r prosiect o ran datblygu IMUs, a bydd yn cyfrannu ei brofiad o ddarparu cynnyrch sy'n fasnachol hyfyw.
O safbwynt clinigol, darperir arbenigedd gan ffisiotherapydd cyhyrysgerbydol arbenigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Canlyniadau Disgwyliedig
- Marchnad gynnyrch newydd ar gyfer technoleg Ambiquire
- Adnodd mesur fforddiadwy, gwrthrychol i gefnogi prosesau adsefydlu yn y cartref
- Dilyniant cleifion wedi'i lywio gan ddata symudiad gwrthrychol
- Cyfleoedd ar gyfer cydweithredu pellach a ffrwd ariannu newydd rhwng partneriaid prosiect
- Astudiaethau achos a chyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid
Effaith Yn Y Dyfodol
- Effaith economaidd drwy ehangu'r dechnoleg i wahanol feysydd drwy well dealltwriaeth o angen clinigol.
- Twf cwmnïau wedi'i ysgogi gan ymchwil a datblygu cydweithredol
- Mwy o effeithiolrwydd adsefydlu cyhyrysgerbydol yn y cartref
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.