Hyd: 2 mis

Partneriaid: Waterless Ltd a Phrifysgol Caerdydd

Nod: Profi effeithiolrwydd hylif di-alcohol Nilaqua rhag Firws SARS-CoV-2 mewn amryw adegau ac amgylchiadau

Waterless Ltd Product Range

Trosolwg

Yn sgîl pandemig COVID-19 yn ddiweddar a’r cynghorion y dylai pobl olchi eu dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr neu ddefnyddio hylif diheintio i arafu ac atal heintio, mae angen cynhyrchion diheintio dwylo gwell a mwy effeithiol, yn enwedig rhai a fydd yn parhau i weithio am oriau. Byddai hynny’n well na’r cynhyrchion alcohol a ddefnyddir yn eang ar hyn o bryd - mae nhw’n effeithiol rhag micro-organebau ar y croen am ond ychydig o amser.

Defnyddir hylif diheintio sy'n cynnwys alcohol (>60%) yn eang gan ei bod yn hysbys ei fod yn effeithiol. Fydd effaith diheintyddion o’r fath ddim yn para am hir, fodd bynnag, ac maen nhw’n fflamadwy iawn, yn gostus ac yn niweidiol i’r croen. Mae cwmni Waterless wedi creu ‘Nilaqua’, hylif heb alcohol sy’n parhau i weithio wedyn i leihau traws-heintio.

Nod yr astudiaeth hon yw profi Nilaqua a phennu pa mor hir y bydd yn parhau I weithio yn erbyn firysau ar groen, arwynebau neu feinwe sy’n efelychu bywyd go iawn mor agos ag y bo modd.

Mae Rhaglen Cyflymu yn helpu i gynnal y prosiect hwn trwy arbenigedd microbiolegol a chyfleusterau profi arbenigol Prifysgol Caerdydd. Bydd tîm Cyflymu yn helpu i reoli a gweinyddu’r prosiect ac yn cynghori ar drosglwyddo gwybodaeth lle bo angen. Bydd tîm Waterless yn rhoi arbenigedd, deunyddiau a nwyddau traul ar gyfer y prosiect yn ogystal â phrofiad o’r ysbyty a gwybodaeth ynghylch natur a diben y cynnyrch.

Jess Efford, Uwch Dîm Rheoli, Waterless:

"Mae Waterless Limited wedi rhagweld ers tro fod angen ffyrdd mwy caredig, cyflymach ac ecogyfeillgar i atal croeshalogi yn y GIG, ac roedd tîm rhagorol, uchel ei barch Prifysgol Caerdydd yn chwilio am brosiect arloesol, hefyd. Mae'r cydweithio hwn wedi’n galluogi i brofi ein cynnyrch mewn sawl sefyllfa, yn agos at fywyd go iawn, ac mae hynny’n hanfodol i leihau croeshalogi eang.

Mae cynnyrch caredig y bydd pobl am ei ddefnyddio yn helpu i hybu cydymffurfio a gwella deilliannau clinigol. Cynnyrch lleol, llai ei ôl troed carbon, sydd wedi profi ei werth waeth beth fo'r pandemig neu'r achos ac, felly, mae’n addas i bob sefyllfa ac yn ateb dibynadwy i’r ysbytai.

Cyflenwr cyntaf a mwyaf y deyrnas yw Nilaqua ynghylch diheintydd di-alcohol i’r GIG, ac rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth helaeth o gynhyrchion diheintio dwylo ac arwynebau (wedi’u dilysu trwy dros 30 o brofion) i ddatrys bron pob problem yn yr ysbytai yn gyflym."

Deilliannau

  • Y protocol gorau i brofi gallu’r cynnyrch i atal firysau rhag gweithredu am hyd at chwe awr ar y dwylo a saith diwrnod ar arwynebau.
  • Data am effeithiolrwydd y cynnyrch gan dîm ymchwil annibynnol.
  • Tystiolaeth dros ddefnyddio hylifau heb alcohol – er lles pobl mae’u croen yn dyner neu wedi’i niweidio neu’r rhai sy’n gweithio mewn mannau lle mae’n anodd golchi’r dwylo yn aml.
  • Cyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, ac adroddiadau cyhoeddus.

Effaith Yn Y Dyfodol Trosolwg

  • Rhagor o wybodaeth i hysbysu llunwyr polisïau a llywodraethau am fanteision ac effeithiolrwydd hylifau di-alcohol o ran eu gallu i ladd amryw bathogenau dros gyfnod eithaf hir.
  • Tystiolaeth a fydd yn helpu’r cwmni i lunio prosesau cynhyrchu newydd yn ei ffatri yn Abertawe.
  • Arferion hylendid gwell trwy atebion amgen.
  • Posibiliadau ynghylch llai o salwch ac adroddiadau RIDDOR.
  • Effaith ar iechyd y cyhoedd ledled Cymru a’r tu hwnt.
  • Portffolio ymchwil ehangach i’r Brifysgol ynghylch SARS-CoV-2.

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner