Chwarae

Y Cyfle Gwyddorau Bywyd

Therapi Celloedd a Genynnau yw datblygu a defnyddio triniaethau bôn-gelloedd i wella cyflyrau cronig, gwanychol. Y rhain yw’r gwyddorau gwaed a thriniaethau iechyd diweddaraf lle gall ymyraethau wella cyfl yrau.

Rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Fwy na dwy blynedd yn ôl, sefydlodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau.

Roedd yn canolbwyntio ar ddod â busnesau yn y sector hwn oedd â gweithgarwch presennol yng Nghymru ynghyd. Bu’r grŵp yn gweithio ar greu eu ff ocws ymchwil a datblygu gan ymgysylltu â Gwasanaeth Gwaed Cymru sydd â phrofi ad blaenorol o drosglwyddo gwaed i leoliadau ysbyty a dod ag arbenigwyr academaidd allweddol ynghyd.

Bu’r Grŵp yn cwrdd yn rheolaidd gan gynyddu momentwm a llais ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r angen i newid y ffordd mae’r gwasanaeth iechyd yn ystyried therapi celloedd.

Yn ystod Haf 2017, cyhoeddodd Innovate UK - braich gyllido Llywodraeth y DU - gynlluniau I sefydlu tair canolfan Triniaeth Therapi Celloedd a Gennynau uwch yn y DU a gwnaed cais am gynigion. Yn dilyn y cais am gynigion am gyllid gan Innovate UK, gwyddom yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru y gallai cyfle fodoli i Gymru gyfrannu a chwarae rhan allweddol. Drwy'r Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau, fe wnaethom gynnull y partïon â diddordeb.

O dan arweiniad Gwasanaeth Gwaed Cymru, fe wnaethom gyflwyno cais i Innovate UK cyn diwedd 2017. Gan wybod nad oedd y gronfa cleifion yn ddigon mawr yng Nghymru, cyflwynwyd cais am gyllid ar y cyd â Chanolbarth Lloegr, er mwyn cael mynediad at boblogaethau mwy ar gyfer triniaethau.

Bu’r cais yn llwyddiannus. Fel consortiwm rhwng Canolbarth Lloegr a Chymru fe wnaethom sicrhau £7.2 miliwn. O hyn, aeth £1.5 miliwn i Ymddiriedolaeth GIG Felindre a £500,000 i gwmni Gwyddorau Bywyd yng Nghymru o’r enw TrakCel, sydd â chontractau rhyngwladol, i fonitro, olrhain a chanfod bôn-gelloedd drwy’r daith gynaeafu ac esblygiad, gan reoli’r broses olrhain a chanfod.

Y Manteision i'r Gwasanaeth Iechyd, Cleifion a'r Economi

Mae hyn yn enghraifft wych o broses lle'r ydym wedi cynnull pobl sy'n meddu ar amrediad eang o arbenigedd a gwybodaeth sy'n gweithio yn yr un maes, llunio her I dumau a sicrhau gweledigaeth ac amcan cyffredin. Yna buom yn gweithio ochr yn ochr â hwy I greu canlyniad cadarnhaol, yn cyflenwi manteision gwirioneddol i gleifion. Mae'r Grŵp Diddordeb Arbennig Celloedd a Genynnau yn cyflenwi cynhyrchion arloesol i gleifion. Heb Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae'n bosib y byddai'r cynhyrchion wedi'u datblygu ar wahân i'r gwasanaethau iechyd. Rydym wedi llwyddo I sicrhau cyllid er mwyn rhoi'r prosiect ar waith. 

Bydd y canlyniadau terfynol yn cael eu gwireddu cyn hir ac, yn y cyfamser, mae'r broses o fapio ac ymgysylltu systemaidd gyda chleifion eisoes yn gweithio'n dda er mwyn sicrhau'r gwerth mwyaf. Yn y pen draw, drwy helpu I osgoi sefyllfa lle mae'r diwydiant yn gweithio ar ei ben ei hun, rydym yn llwyddo I gyflawni arbedion effeithlonrwydd ac arbedion costau. 

Mae'r Grwp Diddordeb Arbennig Celloedd a Genynnau, a sefydlwyd gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn 2016, yn parhau I ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd o fewn y maes therapïau uwch er mwyn cefnogi ac ysgogi arloesedd, cydweithrediad a sicrhau buddsoddiad er mwyn i'r maes dyfu.