Hyd y prosiect: 24 mis

Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Optometreg Cymru 

Optometrist on computer

Trosolwg o'r prosiect

Nid oes digon o gapasiti mewn gofal eilaidd i asesu a rheoli cleifion gofal llygaid yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2019, roedd bron i 115,000 o gleifion yn y categori R1 (risg o golli golwg yn ddi-droi’n-ôl os collir dyddiad targed y claf) yn disgwyl am apwyntiad llygaid mewn ysbyty yng Nghymru. Roedd 38% o’r cleifion hynny wedi mynd ymhellach na’u dyddiad targed.

Mae’r galw am wasanaethau gofal llygaid yn cynyddu drwy boblogaeth sy’n heneiddio ac yn cynyddu’r risg sy’n gysylltiedig â chlefydau eraill, yn enwedig diabetes. Mae defnyddio technoleg ddigidol i fynd i’r afael ag anghenion clinigol heb eu diwallu wedi cael amlygrwydd cynyddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau gwelliannau sylweddol mewn gofal darbodus.

Nod y prosiect hwn yw lleihau’r pwysau anghynaliadwy ar wasanaethau offthalmoleg ar hyn o bryd drwy arloesi digidol. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu fframwaith gwasanaeth lle mae optometryddion cofrestredig y stryd fawr yn ymgymryd â’r gwaith o reoli cleifion llygaid risg uchel a ddynodwyd.

Cyfraniad Cyflymu

Mae Cyflymu yn cynorthwyo academyddion Caerdydd, Optometryddion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i werthuso model clinigol chwyldroadol i hwyluso gwasanaethau gofal llygaid arbenigol mewn lleoliadau cymunedol. Drwy gyfres o wasanaethau peilot newydd, bydd Cyflymu yn helpu i reoli hyd at 9000 o gleifion dynodedig ar draws 5 parth gofal: Atgyfeiriadau glawcoma newydd, atgyfeiriadau dilynol glawcoma, dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint, retinopathi diabetig ac anafiadau annisgwyl i’r llygaid.

Bydd Optometryddion medrus mewn practisau cymunedol yn defnyddio technoleg delweddu o’r radd flaenaf, meddalwedd pwrpasol a chofnodion electronig am gleifion er mwyn i offthalmolegwyr gofal acíwt wneud diagnosis drwy edrych ar ddata digidol sy’n cael ei lwytho i fyny o bell.

Cyfeirir achosion cymhleth at wasanaethau acíwt ar gyfer gofal priodol. Bydd gwerthuso’r data peilot gan academyddion Caerdydd yn cynnwys cymariaethau â gofal arferol ynghyd â mesurau profiad a chanlyniadau ar gyfer cleifion ac ymarferwyr a gwerthusiadau economeg iechyd. Bydd y canfyddiadau’n llywio’r gwaith o gyflwyno gwasanaethau offthalmig rhannu gofal, ledled Cymru.

Optom scan example

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner