Yr Is-adran Gofal Sylfaenol
Mae’r Is-adran Gofal Sylfaenol yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae wedi’i threfnu’n ddau dîm; yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol, a’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol. Mae gan yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol ddau gylch gwaith cyffredinol o (1) Cefnogi ein partneriaid i gyflawni cynlluniau cenedlaethol ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru, a (2) datblygu dull cydgysylltiedig o atal mewn gofal sylfaenol a chymunedol.