Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Mae’r Hybiau Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (RIC) yn ffurfio rhwydwaith cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Hybiau hyn yn rhan o’r Bwrdd Iechyd lleol ac yn gweithio i alluogi rhaglen drawsnewid y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac i ategu’r Gronfa Integredig Ranbarthol sy’n canolbwyntio ar seilwaith arloesi a gweithgareddau sy’n helpu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r Hwb hwn wedi’i leoli o fewn Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.