Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol (SMTL)

Mae SMTL yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) ac mae’n darparu ystod o wasanaethau profi dyfeisiau meddygol a biolegol i GIG Cymru i helpu gyda chaffael.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)

Mae SBRI yn ariannu gwaith ymchwil a datblygu i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu ym maes gofal iechyd drwy gynnal heriau penodol a chystadlaethau agored. Ariennir SBRI gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae SBRI yn dod â heriau’r llywodraeth a syniadau byd busnes at ei gilydd i greu datrysiadau arloesol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Cefnogir Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn datblygu a choladu ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd gwledig, ac i wella hyfforddiant a recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymunedau gwledig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hysbysu, hwyluso a chreu cysylltiadau ar gyfer ymchwilwyr sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC)

Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd yn rhaglen waith ar gyfer Cymru gyfan sy’n dod â byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG at ei gilydd i hyrwyddo a hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Technoleg Iechyd Cymru

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gorff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru trwy gynhyrchu canllawiau ar ddefnydd technolegau newydd. Mae cylch gwaith HTW yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol, tele-fonitro neu adsefydlu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae AaGIC (sy’n rhan o GIG Cymru) yn gyfrifol am addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Ymchwil Technoleg Iechyd Cedar

Mae Cedar (sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) yn canolbwyntio ar werthuso dyfeisiau meddygol a diagnosteg. Mae’n gweithio gyda’r GIG, sefydliadau academaidd, y sector masnachol, sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus, ac elusennau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Comisiwn Bevan

Comisiwn Bevan yw melin drafod iechyd a gofal fwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r comisiwn yn dod ag arbenigwyr iechyd a gofal rhyngwladol at ei gilydd i ddarparu cyngor annibynnol ac awdurdodol i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr y GIG yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTC)

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn sefydliad GIG sy’n cefnogi Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i sicrhau bod mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru yn deg, yn amserol ac yn gwella’n barhaus i bobl Cymru, yn ogystal â sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn briodol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: