Therapïau Uwch Cymru
Ariennir Rhaglen Therapïau Uwch Cymru gan Lywodraeth Cymru, a'i nod yw darparu mynediad teg i gleifion i Gynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch (ATMP) datblygol.
Ariennir Rhaglen Therapïau Uwch Cymru gan Lywodraeth Cymru, a'i nod yw darparu mynediad teg i gleifion i Gynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch (ATMP) datblygol.
Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yn gydweithrediad unigryw rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Nod ARCH yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn ei ardaloedd a goresgyn heriau o fewn gofal iechyd yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a swyddogaethau cymorth i GIG Cymru, gan gynnwys gwasanaethau archwilio, cyfrifon, cyflogaeth a chyfreithiol.
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw’r gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau meddygol brys, y gwasanaeth 111, a chludiant cleifion nad yw’n argyfwng.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ledled de a chanolbarth Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n adeiladu ac yn dylunio’r systemau digidol a data cenedlaethol sy’n sail i’r gwasanaethau iechyd a gofal a ddarperir gan GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys cofnodion iechyd electronig, Ap GIG Cymru a llwyfannau rhagnodi electronig.
Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau GIG, iechyd a lles yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol.
Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau GIG, iechyd a lles ym Mhowys.
Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau GIG, iechyd a lles yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.