Academi Arwain Trawsnewid Digidol - Academi Dysgu Dwys, Prifysgol De Cymru

Mae’r Academi Arwain Trawsnewid Digidol ym Mhrifysgol De Cymru yn Academi Dysgu Dwys sydd â’r nod o ddod â chymuned o arweinwyr â ffocws digidol a darpar arweinwyr o bob rhan o'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector at ei gilydd. Cydweithio ar draws y sector o ran cyfleoedd ymchwil, gwybodaeth a dysgu, datblygu dulliau atal newydd ac astudiaethau doethuriaeth sy’n seiliedig ar ymchwil i gynnal gwaith ymchwil manwl ar gyfer trosi ymchwil yn ganlyniadau atal.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Academi Dysgu Dwys Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, Prifysgol Abertawe

Mae Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth Prifysgol Abertawe yn Academi Dysgu Dwys sy’n cynnig cyrsiau addysgol, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth. Mae’r Academi yn bartner i Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru a Chynghrair yr UE ar Werth mewn Iechyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant - Academi Dysgu Dwys, Prifysgol Bangor

Mae Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Prifysgol Bangor yn Academi Dysgu Dwys (ILA), sydd wedi cael ei datblygu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r Academi’n canolbwyntio ar gyflymu’r gwaith o hyrwyddo a mabwysiadu iechyd ataliol mewn ymarfer ar draws ecosystem gofal iechyd integredig (fel iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, tai, addysg a diwydiannau gwyddorau bywyd) ac mewn cyd-destun dwyieithog.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn gorff cyhoeddus sy’n gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg uwch. Mae CCAUC yn rheoleiddio lefelau ffioedd mewn addysg uwch, yn craffu ar berfformiad prifysgolion Cymru, ac yn darparu cyllid ar gyfer addysgu, ymchwil ac arloesedd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Y Brifysgol Agored yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru

Mae Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yn cael ei harwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru, a’i nod yw ymchwilio a gwerthuso rhaglenni rhagnodi cymdeithasol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI)

Mae’r WIDI yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS - Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach). Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddatblygu mentrau sy'n gysylltiedig â rheoli data iechyd, ar yr un pryd â chaniatáu i NWIS gyfrannu at ddylunio rhaglenni academaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan roi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gael mynediad at leoliadau gwaith ac interniaethau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Parc Geneteg Cymru

Ariennir Parc Geneteg Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac fe’i gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Parc Geneteg yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil genetig a genomig ledled Cymru, gan helpu i weithredu Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae'r Parc yn darparu dadansoddiad dilyniannu a biowybodeg pwrpasol i wyddonwyr ymchwil biofeddygol. Mae’n cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil genomeg a geneteg ledled Cymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Ymchwil Canser Cymru

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe'i hariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r ganolfan yn cefnogi ymchwil drwy ddatblygu’r strategaeth ymchwil canser ar gyfer Cymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

SABRE Cymru

Mae SABRE Cymru yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar ymchwil sy'n gysylltiedig ag achosion o glefydau heintus.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: