Canolfan PRIME Cymru

Canolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS)

Mae Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe yn gartref i labordai ymchwil a chyfleusterau deori busnes ar gyfer sefydliadau masnachol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

DECIPHer

Sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw DECIPHer ac mae’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae DECIPHer yn dod ag arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd fel deiet a maeth; gweithgarwch corfforol; a thybaco, alcohol a chyffuriau, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Comisiwn Bevan

Comisiwn Bevan yw melin drafod iechyd a gofal fwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r comisiwn yn dod ag arbenigwyr iechyd a gofal rhyngwladol at ei gilydd i ddarparu cyngor annibynnol ac awdurdodol i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr y GIG yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sefydliad Awen

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr, pobl hŷn a’r diwydiannau creadigol ynghyd i gydgynhyrchu cynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer heneiddio’n iach.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae ATiC (sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn ganolfan cefnogi ymchwil a busnes sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau cynorthwyol. Mae'r ganolfan yn cynnig mynediad at arbenigedd academaidd a chyfleusterau arloesol, gan gynnwys labordai UX a chyfleusterau prototeipio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ArloesiAber

Mae ArloesiAber (sy’n rhan o Brifysgol Aberystwyth) yn cynnig cyfleusterau ac arbenigedd i fusnesau yn y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod. Yn benodol, mae gan ArloesiAber bum canolfan, yn ffocysu ar fioburo, bwydydd y dyfodol, dadansoddi uwch, bio-fancio hadau ac arloesi.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)

Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yn gydweithrediad unigryw rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Nod ARCH yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn ei ardaloedd a goresgyn heriau o fewn gofal iechyd yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol De Cymru

Mae tua 23,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol De Cymru ar draws tri champws yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Mae gan y brifysgol dair cyfadran; Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth; Busnes a Diwydiannau Creadigol; a Gwyddorau Bywyd ac Addysg

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Mae tua 6,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Wrecsam ac mae wedi’i rhannu’n ddwy Gyfadran; y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: