Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae tua 13,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd â champysau yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe, Birmingham a Llundain. Rhennir y brifysgol yn gyfadrannau; Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg; Busnes a Rheolaeth; Dyniaethau a'r Celfyddydau Perfformio; yn ogystal â’r Athrofa Addysg a Choleg Celf Abertawe.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol Abertawe

Mae tua 20,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Abertawe, ac mae’n gartref i dri chyfadran; y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol; Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd; Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae’r gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd yn gartref i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dangosodd Abertawe gryfder penodol mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio ac Ymchwil Fferylliaeth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae tua 22,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi'u rhannu ar draws pum ysgol: Celf a Dylunio, Addysg a Pholisi Cymdeithasol, Rheoli, Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, a Thechnolegau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd yw unig aelod Grŵp Russell o brifysgolion ymchwil-ddwys Prydain yng Nghymru. Mae tua 34,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r brifysgol ac mae'n cynnwys Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, cafodd y brifysgol ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol Bangor

Mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Bangor, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru. Mae gwaith ymchwil y brifysgol yn canolbwyntio ar dair thema allweddol, sef ynni a’r amgylchedd; iechyd, lles ac ymddygiad; ac iaith, diwylliant a chymdeithas. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi’i lleoli yn y brifysgol, a disgwylir y garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth ym mis Medi 2024.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Prifysgol Aberystwyth

Mae dros 8,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Aberystwyth, sy’n cynnwys tri chyfadran; y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Busnes a Gwyddorau Ffisegol, a Gwyddorau’r Ddaear a Bywyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR)

Mae'r NCPHWR yn ganolfan a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n gartref i ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data o brifysgolion Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall, gwerthuso a llywio gwelliannau iechyd y boblogaeth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: