PharmacyX
Mae PharmacyX yn ddarparwr meddalwedd ar gyfer fferyllfeydd, sy’n galluogi fferyllwyr i ddigideiddio eu llif gwaith a’u cleifion i archebu presgripsiynau rheolaidd ar-lein.
Mae PharmacyX yn ddarparwr meddalwedd ar gyfer fferyllfeydd, sy’n galluogi fferyllwyr i ddigideiddio eu llif gwaith a’u cleifion i archebu presgripsiynau rheolaidd ar-lein.
Mae NPL Medical Services yn darparu gwasanaethau gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio offer meddygol i’r GIG.
Mae Miller Medical yn dosbarthu amrywiaeth o offer meddygol, gan gynnwys offer untro, nwyddau traul, dodrefn, profion diagnostig a chynhyrchion fferyllol.
Mae Medical and Education Academy yn ddarparwr addysg ym maes datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae'n cynnig cyrsiau dysgu o bell i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes uwchsain, meddygaeth atgenhedlol a llawfeddygaeth gymhwysol.
Mae M&M Medical yn darparu gwasanaethau dylunio, gosod a chynnal a chadw nwy meddygol a labordy.
Mae First Response Medical Training yn ddarparwr hyfforddiant ar gyfer hyfforddiant adfywio a meddygol brys.
Mae ETS Medical yn darparu gwasanaethau cludiant a chludo i’r GIG a’r sector gofal iechyd ehangach. Mae hyn yn cynnwys cludo cleifion, yn ogystal â samplau, meddyginiaeth a sbesimenau patholegol.
Mae CMC Consulting yn darparu cyngor datblygu masnachol i’r sectorau meddygol a gofal iechyd, gan gynnwys gwybodaeth am y farchnad, cynllunio strategol, cynllunio mynediad i’r farchnad a chyngor caffael.
Mae Carey Medical yn cyflenwi dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, gan gynnwys diffibrilwyr, monitorau pwysedd gwaed, adweithyddion diagnostig a laryngosgopau.
Mae Arcus Compliance yn gwmni ymgynghori rheoleiddiol sy’n arbenigo yn y diwydiannau vape, colur, dyfeisiau meddygol ac iechyd oedolion. Mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau ymgynghori, gan gynnwys ymgynghori ar reoli ansawdd ac ymgynghori ar strategaethau cydymffurfio, yn ogystal â gwasanaethau technegol fel profion dadansoddol. Mae’r cwmni hefyd yn darparu meddalwedd fel offer gwasanaeth sy’n cynnwys gwybodaeth i helpu cwmnïau i reoli cyflwyniadau rheoleiddiol.