Markes
Mae Markes yn wneuthurwr offer sbectrometreg cromatograffaeth nwy y gellir eu defnyddio mewn labordai amgylcheddol, bwyd a chlinigol.
Mae Markes yn wneuthurwr offer sbectrometreg cromatograffaeth nwy y gellir eu defnyddio mewn labordai amgylcheddol, bwyd a chlinigol.
Mae Vicentra wedi datblygu Kaleido, pwmp inswlin y gellir ei ailddefnyddio y gellir ei reoli a’i fonitro gan declyn llaw. Gall y ddyfais hefyd gysylltu â Monitor Glwcos Parhaus i ddarparu bolws cywiro. Mae pencadlys y cwmni yn yr Iseldiroedd, ac mae ganddo swyddfa gofrestredig yn y DU yn Abertawe.
Mae Lubas Medical yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol ar gyfer CPR, AED ac argyfyngau meddygol.
Mae BUDDY yn darparu gorchuddion corff sy’n dal dŵr a gorchudd untro ar gyfer theatrau llawfeddygol.
Mae Learna yn ddarparwr diplomâu ôl-raddedig gofal iechyd, cyrsiau Meistr ac MBA ar-lein. Mae Learna wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ac yn cyflwyno eu rhaglenni ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Buckingham.
Mae Excelcis yn gwmni meddalwedd sy’n darparu gwasanaethau i gleientiaid mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys datblygu meddalwedd personol a gwasanaethau a reolir. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu cynnyrch meddalwedd, gan gynnwys iOPharma, pecyn meddalwedd sydd wedi’i ddylunio i symleiddio’r broses o brynu deunyddiau crai.
Mae Benchmark Skincare wedi datblygu Derma Shield, dyfais feddygol sydd ar gael fel aerosol, hufen neu eli i amddiffyn rhag dermatitis cyswllt llidiog.
Mae Kinderkey yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn cyflenwi gwelyau arbenigol ar gyfer oedolion a phlant ag anghenion arbennig.
Mae Cantre Mobility yn cyflenwi offer symudedd a chymhorthion eraill i gleifion, gan gynnwys cadeiriau olwyn a gwelyau.
Mae Bush Healthcare yn adwerthwr symudedd yng Nghymru sy’n darparu cyfarpar symudedd a gofal iechyd fel cadeiriau olwyn, cynnyrch gofal ymataliaeth a chymhorthion byw eraill.