Cymru Healthcare
Mae Cymru Healthcare yn cyflenwi cynnyrch gofal iechyd, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, nwyddau traul meddygol, offer gofalu am glwyfau a chyfarpar meddygol.
Mae Cymru Healthcare yn cyflenwi cynnyrch gofal iechyd, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, nwyddau traul meddygol, offer gofalu am glwyfau a chyfarpar meddygol.
Mae Vernacare yn cyflenwi cynhyrchion ar gyfer atal heintiau, rheoli gwastraff clinigol a gweithdrefnau llawfeddygol. Mae’r cynhyrchion hyn yn amrywio o weips sych a gwlyb untro, peiriannau malu ysbytai, biniau gwastraff clinigol, offer llawfeddygol untro, a dyfeisiau gofalu am glwyfau. Mae gan y cwmni safle gweithgynhyrchu yn ne Cymru, ar ôl iddynt gaffael busnes atal heintiau Frontier Medical Group yn 2020.
Mae Biofortuna yn ddarparwr gwasanaeth i ddatblygwyr diagnosteg moleciwlaidd a phrofion imiwnedd, gan gynnwys datblygu contractau a gwasanaethau gweithgynhyrchu. Mae'r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau genomig fel echdynnu DNA ar gyfer sefydliadau ymchwil fferyllol a chlinigol, dilysu llinellau celloedd ar gyfer ymchwilwyr academaidd, a phrofi cysylltiadau DNA ar gyfer achosion cyfreithiol, mewnfudo a fforensig.
Mae Vibrant Medical wedi datblygu Vibro-Pulse, dyfais feddygol sydd wedi’i dylunio i drin ac ysgogi’r broses o wella ystod o glwyfau cronig drwy weithred ddirgrynu amledd isel. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Ninbych.
Mae Virtus Tech wedi datblygu llwyfan VR sy'n caniatáu i ddefnyddwyr annhechnegol greu efelychiadau personol. Mae’r llwyfan hwn wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu senarios hyfforddiant gofal iechyd yn y GIG, yn ogystal â chael ei ddefnyddio mewn amgylcheddau academaidd eraill.
Mae Ai Healthcare yn cyflenwi offer technegol ar gyfer practisau meddygol, deintyddol a milfeddygol, gan gynnwys cyfarpar tawelyddu nwy, delweddu digidol, dadhalogi a datrysiadau llawfeddygol. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â dylunio ac adnewyddu ystafelloedd llawfeddygol.
Mae Human Data Sciences yn gwmni gwyddor data o Gymru sydd wedi datblygu Livingstone, llwyfan dadansoddi ar-lein sy'n trawsnewid data gofal iechyd yn adroddiadau, e.e. dadansoddiadau epidemiolegol neu economaidd. Mae'r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau ymchwil, gan gynnwys economeg iechyd ac ymchwil canlyniadau, ymchwil ffarmacolegol a dehongli data.
Mae UK Discovery Health yn gwmni ymgynghori sy’n darparu ymgynghoriaeth ar fynediad i’r farchnad, cynllunio strategol a masnacheiddio ar draws y sectorau gwyddorau bywyd ac iechyd digidol.
Mae Teamworks yn darparu gwasanaethau dylunio, marchnata a chyfathrebu i gwmnïau gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys cleientiaid biotechnoleg a thechnoleg feddygol.
Mae Sotas Group yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth ansawdd a rheoleiddio diagnostig dyfeisiau meddygol o Abertawe. Mae’r cwmni’n darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys llunio dogfennau technegol, llywio strategaethau rheoleiddio, rhoi Systemau Rheoli Ansawdd ar waith a hyfforddi staff.