Gwybodaeth am ein Hasesiadau Arloesedd

Mae ein hasesiadau’n cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i arloeswyr, gan roi cyngor iddynt ar gamau gweithredu angenrheidiol er mwyn eu mabwysiadu’n llwyddiannus o fewn systemau iechyd a gofal Cymru. Yn ganolog i’r asesiad hwn mae ymarfer diwydrwydd dyladwy manwl, sy’n cynnwys gwaith ymchwil manwl i gynnyrch neu wasanaethau cyfatebol sydd eisoes yn barod ar gyfer y farchnad.

Er mwyn sicrhau tryloywder a chysondeb wrth wneud penderfyniadau ac adrodd, rydym yn defnyddio’r broses asesu hon gyda’r holl arloesiadau sy’n cael eu hystyried. Mae ein hymroddiad i’r fethodoleg hon yn cael ei arddangos drwy gofnodion wedi’u dogfennu o asesiadau sydd wedi’u cwblhau, y gefnogaeth a ddarperir, a buddiolwyr yr asesiadau hyn.

Mae’r asesiadau hyn yn alinio ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol Cymru a gallant fod ar gael i gydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer penderfyniadau pellach ynghylch mabwysiadu.


Enghraifft: Asesiad Arloesedd Gofal Clwyfau Digidol

Mae rheoli clwyfau yn her fawr yn system gofal iechyd y DU, gyda miliynau o bobl yn cael eu trin bob blwyddyn, gan gostio biliynau. Yng Nghymru yn unig, mae hyn gyfwerth â miliynau o bunnoedd, sy’n effeithio ar gyllideb y GIG. Mae strategaethau effeithiol, fel asesu amserol a thriniaeth briodol, yn hanfodol i leddfu’r straen ar adnoddau. Mae gofal clwyfau effeithlon yn cyflymu’r broses o adfer ac yn gwella ymgysylltiad cleifion. Gan gydnabod ei effaith sylweddol, mae optimeiddio strategaethau yn hanfodol i wella canlyniadau, lleihau beichiau a defnyddio adnoddau’n effeithiol. 

Darllenwch ein hasesiad arloesi gofal clwyfau llawn yma.


Gweld ein cyfres o Asesiadau Arloesedd

Os ydych chi’n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac yn chwilio am wybodaeth am arloesiadau ar gyfer eich rhaglen arloesedd eich hun, cysylltwch â ni heddiw. Mae ein tîm medrus a gwybodus eisoes wedi cynnal asesiadau arloesedd manwl mewn meysydd fel: