Maruthi Quality Management Services
Mae Maruthi Quality Management Services yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddatblygwyr Dyfeisiau Meddygol, gan gynnwys cyngor rheoleiddio, Gweithredu System Rheoli Ansawdd a chyngor ar Eiddo Deallusol.
Mae Maruthi Quality Management Services yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddatblygwyr Dyfeisiau Meddygol, gan gynnwys cyngor rheoleiddio, Gweithredu System Rheoli Ansawdd a chyngor ar Eiddo Deallusol.
Mae ImmunoServ yn gwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sy'n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau ym maes imiwnoleg. Mae’r cwmni’n datblygu profion imiwnolegol, gan gynnwys profion celloedd T ar gyfer COVID-19. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan y cwmni’n cynnwys gwasanaethau labordy i gefnogi datblygiad profion imiwnedd newydd.
Mae Grove Nanomaterials yn gwmni deillio o labordy Nanoddeunyddiau Prifysgol Abertawe. Mae'r cwmni wedi caffael 3 phatent o'r brifysgol, ac mae'n bwriadu cyflenwi ei dechnoleg gweithgynhyrchu a nanoronynnau i gwsmeriaid diwydiannol, gan gynnwys cwmnïau ym meysydd gwyddoniaeth ffisegol, cemegol, biolegol a pheirianneg. Mae meysydd cymhwyso posibl yn cynnwys mewn catalyddion, synwyryddion, theranosteg a deunyddiau newydd.
Mae Llesiant Delta Wellbeing wedi datblygu Delta CONNECT, gwasanaeth teleofal a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei gynnig ar draws maes gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r llwyfan yn cynnwys gwasanaethau fel asesiad llesiant, cymorth llesiant, pecynnau cymorth gofal wedi’u hwyluso gan dechnoleg (TEC) a gwasanaeth ymateb cymunedol.
Mae Clarity Compliance Solutions yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau, archwiliadau ffug, hyfforddiant a datblygu System Rheoli Ansawdd.
Mae Capital Law yn gwmni cyfraith fasnachol sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys i’r diwydiant gofal iechyd a fferyllol.
Mae Bloom Standard wedi datblygu dull o gynnal sganiau uwchsain awtonomaidd, di-law sy'n galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sgrinio babanod newydd-anedig a phlant am gyflyrau cardiaidd ac anadlol. Nid yw’r cynnyrch hwn wedi’i gymeradwyo at ddefnydd clinigol ar hyn o bryd.
Mae Blackwood Embedded Solutions yn ymgynghoriaeth dylunio ar gyfer dylunio meddalwedd ac electroneg. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn dylunio cynnyrch ar gyfer y sector meddygol.
Mae Ambrose Healthcare yn gwmni fferyllol o Wrecsam sy’n datblygu therapïau ar gyfer clefydau prin a gofal mewn ysbytai.
Mae Seastorm yn gwmni meddalwedd sydd wedi datblygu Trialflare, datrysiad electronig ar gyfer casglu data o dreialon clinigol, gan gynnwys cydsyniad electronig a chanlyniadau a adroddir gan gleifion.