Tamarnd Applied Sciences

Mae Tamarnd yn gwmni meddalwedd sydd wedi’i leoli yng Nghymru sy’n datblygu datrysiadau digidol i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sue Rees Associates

Mae Sue Rees Associates yn ymgynghoriaeth recriwtio gweithredol sy’n arbenigo yn y diwydiant gwyddorau bywyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sony UK Technology Centre

Mae Sony UK Technology Centre ym Mhencoed yn gartref i Wasanaeth Gweithgynhyrchu Electroneg Contract sydd wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cynnyrch electronig mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys dyfeisiau meddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Rosenfield Health Tech

Mae Rosenfield yn ddarparwr datrysiadau meddalwedd sy’n gweithio ochr yn ochr â systemau gweinyddu cleifion presennol i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy wella llif gwaith clinigol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

RED Medtech

Mae RED MedTech yn ymgynghoriaeth datblygu cynnyrch a chydymffurfio sy’n arbenigo mewn dyfeisiau meddygol. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys cyngor dylunio a rheoleiddio a chymorth gyda ffeilio technegol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

SERB Pharmaceuticals

Mae SERB Pharmaceuticals (BTG gynt) yn gwmni fferyllol sy’n datblygu cyffuriau ar gyfer gofal brys a chlefydau prin. Prynodd SERB gwmni BTG Specialty Pharmaceuticals yn 2021, a oedd â phortffolio o feddyginiaethau gofal brys, gan gynnwys gwrthwenwynau a ddatblygwyd gan Protherics, cwmni a brynwyd gan BTG yn 2008. Mae gan Protherics gyfleuster gweithgynhyrchu yn Llandysul.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Magpie Concept 

Mae Magpie Concept yn asiantaeth Cyfathrebu Meddygol sy’n arbenigo yn y diwydiant fferyllol. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu llwyfannau ar-lein y gellir eu cynnig i gwmnïau i rannu cynnwys meddygol a chasglu adborth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Laennec AI

Mae Laennec AI wedi datblygu stethosgop digidol wedi'i bweru gan AI ac ap ategol y gellir ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol neu gan gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r stethosgop yn gallu dadansoddi canlyniadau’r stethosgop, a allai arwain at ddiagnosis cynharach o gyflyrau’r galon.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Kinsetsu

Mae Kinsetsu wedi datblygu llwyfan Ktrack sy’n caniatáu i sefydliadau weld data sy’n ymwneud â’u gweithrediadau. Mae Ktrack yn cael ei farchnata ar gyfer sawl diwydiant, gan gynnwys ym maes gofal iechyd, lle gellir defnyddio Ktrack i olrhain asedau fel dyfeisiau ac offer.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

PDR Design

Mae PDR yn gyfleuster ymgynghori dylunio ac ymchwil gymhwysol a sefydlwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Y tu allan i ymchwil academaidd PDR, mae'r cyfleuster hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ar gyfer dylunio cynhyrchion newydd, gan gynnwys dyfeisiau meddygol

Services:
Math:
Sector:
Specialism: