Thermal Compaction Group (TCG) o Gaerdydd oedd un o'r cyntaf yn y byd i greu dyfais i ailgylchu cyfarpar diogelu personol plastig untro yn y ffynhonnell, sy'n ail-lunio 24 tunnell ar gyfartaledd o wastraff polypropylen bob blwyddyn fesul uned. Yn dilyn y pandemig, mae amcangyfrifon yn awgrymu bod ymddiriedolaethau ysbytai ledled y DU wedi bod yn defnyddio 10 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol y dydd rhyngddynt, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn blastig untro, sy’n tynnu sylw at faint y broblem.

Wrth sôn am lwyddiant ac arloesedd y TCG yn fyd-eang, dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae’r dechnoleg sy’n cael ei chreu gan TCG yn torri tir newydd, ac rydyn ni’n falch o rannu enghraifft arall o’r arloesedd a’r ymroddiad gwych rydyn ni’n eu gweld gan y diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru.


“Mae’r ymateb byd-eang i’r dechnoleg hon sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn anhygoel, ac rydym yn gobeithio gweld TCG yn parhau i dyfu ac arloesi atebion newydd i fynd i’r afael â’r gwastraff mawr sy’n deillio o’r pandemig, a mynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol parhaus.”