Mae ein hymrwymiad i wella iechyd a gofal cymdeithasol drwy arloesi yn parhau i gael effaith barhaol. Mae Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 yn tynnu sylw at sut mae cydweithio yn sbarduno arloesedd hanfodol sy’n gwella gofal a llesiant ledled Cymru.

Drwy weithio’n agos gyda phartneriaid ar draws sectorau, cefnogi prosiectau trawsnewidiol, a meithrin buddsoddiad yng Nghymru, rydym yn cyflymu’r broses o fabwysiadu datrysiadau newydd sydd o fudd i gleifion, cryfhau’r system iechyd, a chefnogi twf economaidd ar hyd a lled y wlad.
Dysgwch am lwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf a sut rydym yn trawsnewid heriau i fod yn gyfleoedd ar gyfer dyfodol iachach a mwy disglair.