Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio gyda chwmnïau gwyddorau bywyd, y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a’r byd academaidd i ganfod a gwreiddio arloesedd er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a phobl Cymru.
Mae llawer o gyfleoedd i’w gwireddu, ochr yn ochr â rhai heriau i’w goresgyn er mwyn galluogi’r trawsnewid sydd ei angen. Mae ‘Cyflawni Arloesedd’ yn adnodd ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth allweddol, ymchwil newydd a safbwyntiau newydd – sy’n rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bob sector i wneud gwahaniaeth.