Lleoliad: Rhyddid i weithio o bell ac yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Yn atebol i’r: Pennaeth Datblygu Economaidd
Cyflog: £42,836 y flwyddyn
Oriau: Amser llawn (37.5 awr yr wythnos)
Cyfnod: Parhaol
Gwybodaeth am y swydd
Mae gennym gyfle parhaol cyffrous i Arweinydd Prosiect ymuno â’n tîm Datblygu Economaidd bychan sy’n tyfu!
Byddwch chi’n gweithio gyda’n Pennaeth Datblygu Economaidd, ac yn ein helpu ni i:
- arwain ar waith dadansoddi data economaidd o’r maes iechyd er mwyn cefnogi prosiectau a hyrwyddo sector gwyddorau bywyd Cymru
- cyfrannu at weithgareddau economaidd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
- cefnogi’r broses o weithredu dadansoddiadau economaidd o’r maes iechyd wrth ddewis a chyflawni prosiectau ym mhob rhan o’r sefydliad.
I weld holl fanylion y swydd hon, cliciwch ar y ddolen hon i ddarllen y swydd ddisgrifiad.
Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
- Ymunwch â ni er mwyn bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar
- Diwylliant gwaith cynhwysol a hyblyg
- Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd
- Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 9% gan y cyflogwr
Gwnewch gais nawr!
Anfonwch neges e-bost at careers@lshubwales.com gyda ffurflen cyfle cyfartal wedi’i llenwi, eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen A4 o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon, a pham eich bod yn credu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.
Rhaid i’ch cais ein cyrraedd ni wedi ei gwblhau erbyn hanner dydd, ddydd Gwener 13 Mehefin 2025.
Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 24 Mehefin 2025.
Os hoffech chi gael sgwrs gychwynnol anffurfiol i ddysgu rhagor am y swydd hon, cysylltwch â Gareth Healey, ein Pennaeth Datblygu Economaidd, drwy anfon e-bost at gareth.healey@lshubwales.com