Hyd: 11 mis
Dyddiad Cychwyn: 1 Chwefror 2021
Partneriaid: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, Zenergy Design Ltd, Mental Health Matters Wales a Phrifysgol Caerdydd
Nod: Ail-ddehongli’r adeilad fel lle aml-ddefnydd ar gyfer y gymuned leol, staff a chleifion gan ganolbwyntio ar ‘lesiant’ ac iechyd meddwl
Ysbyty iechyd meddwl yw Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-fai ger Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r eglwys mewn lle amlwg ar diroedd yr ysbyty ac yn dal i gael ei defnyddio at ddibenion crefyddol. Rydyn ni’n bwriadu ail-ddehongli’r adeilad fel lle aml ddefnydd ar gyfer y gymuned leol, yn ogystal â staff a chleifion ar y safle.
Michaela Moore, Cyfarwyddwr Mental Health Matters Wales:
“Mae Mental Health Matters Wales yn hynod o falch o fod yn bartner mewn prosiect mor arloesol sy’n anelu at gefnogi Llesiant Cymdeithasol ac Emosiynol y gymuned”
Canlyniadau Disgwyliedig
- Nodi’r rhanddeiliaid a’u hanghenion
- Datblygu cynllun a manyleb ar y cyd ar gyfer adnewyddu’n gydymdeimladol, gan gynnwys amcangyfrif o gost.
- Diffinio’r model a faint o staff fyddai ei angen ar gyfer rhedeg a gweithredu'r adeilad
- Nodi ffynonellau posibl o arian
- Sefydlu rhwydwaith weithgar o randdeiliad a fydd, yn y dyfodol, yn rhedeg yr amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn helpu Glanrhyd i gyrraedd ei uchelgais cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol a llesiant
Canlyniadau Posibil Yn Y Dyfodol
- Canfod arian i gefnogi addasu’r eglwys yn gynaliadwy yn Ganolfan Gymunedol
- Helpu’r Bwrdd Iechyd i gyfarfod â pholisïau newydd ar gyfer datgarboneiddio a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd. Canlyniad allweddol fydd codi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n bosibl ei wneud gydag adeiladau presennol y Gwasanaeth Iechyd nad oes eu hangen mwyach ar gyfer eu dibenion gwreiddiol.
- Mwy o brofiad i’r cwmni, yn gydnaws ag egwyddorion cynaliadwyedd craidd a fydd yn cryfhau ei bortffolio
- bosibl, cyfleoedd ymchwil a chyhoeddiadau academaidd e.e. trwy fonitro’r defnydd o ynni ac
- optimeiddio perfformiad
- Cefnogi mentrau cymunedol, yn enwedig rhai ynghylch llesiant ac iechyd meddwl a datblygu cysylltiadau cryf gydag elusennau lleol
I ddysgu mwy am brosiectau diweddaraf CIA, ewch i'w gwefan.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.