Cynhelir Cyflymu Arloesi Clinigol gan Brifysgol Caerdydd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae Cyflymu Arloesi Clinigol yn elwa ar ei bartneriaethau hirsefydlog â’r byrddau iechyd rhanbarthol a’r ymddiriedolaethau, gan weithio gyda’r diwydiant a sefydliadau preifat a chyhoeddus eraill i gyflymu’r gwaith o drosi arloesi clinigol. Wrth fynd i’r afael ag anghenion clinigol a heriau darparu gofal iechyd, mae hyn yn arwain at welliannau mewn gofal iechyd ac yn sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol ehangach drwy dwf yn y diwydiant yn y rhanbarth.
Mae enw da cyson Prifysgol Caerdydd, sydd wedi ei chydnabod yn eang am ddefnydd ac effaith ei hymchwil, yn sail i’w hymrwymiad i sefydlu rhagor o bartneriaethau strategol a chydweithredol gyda sefydliadau mawr yn y sector preifat a chyhoeddus yn ogystal ag ategu datbwlygiad a thwf y clwstwr Busnesau Bach a Chanolig ffyniannus yng Nghymru, yn enwedig yn y sector ‘technoleg feddygol’. Dangosir ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i arloesi drwy ei buddsoddiad yn ei Champws Arloesi yng Nghanol y Ddinas ac, yn y cyddestun presennol, drwy ei Phartneriaeth Arloesi Clinigol a’r fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wrth gaffael Medicentre Caerdydd.