Trydydd parti

Am y tro cyntaf yn y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyflwyno pigiad 10 munud arloesol ar gyfer sglerosis ymledol (MS). 

A photo of staff at Swansea Bay University Health Board and patient Emma Cullen

Am y tro cyntaf yn y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyflwyno pigiad 10 munud arloesol ar gyfer sglerosis ymledol (MS). 

Mae’r dull newydd hwn o weinyddu’r cyffur ocrelizumab yn lleihau amseroedd triniaeth yn sylweddol, gan alluogi cleifion i ddychwelyd i’w bywydau bob dydd yn gyflymach. Mae'r driniaeth arloesol hon yn garreg filltir bwysig mewn gofal MS, gan gynnig buddion sy'n arbed amser i gleifion a chynyddu capasiti staff ysbytai i drin mwy o unigolion. 

Gwybodaeth am y driniaeth

Mae MS yn gyflwr gydol oes lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar y system nerfol ganolog, gan dargedu’r ymennydd a madruddyn y cefn yn benodol. Mae'r system imiwnedd yn creu celloedd sy'n ymosod ar firysau yn y corff ac yn eu lladd, ond i'r rhai sydd ag MS, mae'r celloedd yn ymosod ar y nerfau yn lle hynny. 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a fu gynt yn cymryd rhan mewn treialon clinigol ar gyfer ocrelizumab, yw’r cyntaf i gynnig y feddyginiaeth, drwy bigiad dan y croen. Mae’r ffurf hon o’r cyffur y gellir ei chwistrellu yn helpu i atal pyliau o’r salwch ac yn arafu datblygiad MS drwy dargedu a dileu celloedd imiwnedd penodol sy’n ymosod ar yr ymennydd a madruddyn y cefn. Mae’r driniaeth, sy’n cael ei defnyddio ar gyfer MS lle ceir pyliau gweithredol ac MS sy’n gwaethygu’n gynnar, bellach wedi cael ei darparu yn Uned Niwroleg Ddydd Jill Rowe, Ysbyty Treforys.  

Stori claf

Emma Cullen, gwas sifil o Abertawe, oedd y person cyntaf yn y DU i dderbyn y pigiad 10 munud newydd. Cyn hyn, roedd hi’n cael arllwysiadau mewnwythiennol hir ddwywaith y flwyddyn, pob un yn cymryd hyd at bedair awr. Dywedodd hi:

“Yn y lle cyntaf, cefais fy anfon i’r ysbyty gydag amheuaeth o strôc gan fy mod i wedi colli’r holl deimlad yn fy ochr chwith, roedd fy wyneb wedi disgyn, ac roedd gen i binnau bach.

“Es i’r Adran Achosion Brys a chael sgan CT, a ddaeth yn ôl yn glir.

“Cefais fy nghyfeirio am sgan MRI, a ddywedodd fod nifer o namau yn fy ymennydd a madruddyn y cefn. Roedd y cyfan yn sioc.” 

Bu’n rhaid i Emma aros am bwl arall cyn i glinigwyr allu cadarnhau a oedd ganddi MS.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, tra oedd hi allan gyda’i phartner a’i merch, collodd bob teimlad ar ochr chwith ei chorff eto a chafodd ddiagnosis o’r cyflwr yn ddiweddarach.

Dywedodd Emma:

“Cyn gynted ag y des i dros y sioc, trodd fy meddwl at fod eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i’w atal rhag gwaethygu. Dechreuais gymryd ocrelizumab, a arferai olygu tua phedair awr o driniaeth IV bob chwe mis. Ers ei gymryd, dydw i ddim wedi llithro’n ôl o gwbl ac nid oes unrhyw arwyddion o unrhyw friwiau newydd ar sganiau MRI.” 

Bu Dr Owen Pearson, niwrolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Treforys, yn ymgynghori ag Emma ac yn esbonio’r dull newydd, a neidiodd hi ar y cyfle. Wrth siarad am y driniaeth newydd, dywedodd Emma mai’r un driniaeth yn union ydyw, dim ond drwy ddull gwahanol, a bydd yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu cael eu gweld a’u trin yn gynt. Disgrifiodd y profiad fel ‘newid enfawr’ ac roedd yn synnu pa mor gyflym a di-boen oedd y pigiad. Yn ddiolchgar i Dr Pearson a’r tîm, mae hi’n annog cleifion eraill i ystyried y dull hwn. 

Effaith y prosiect

Mae cyflwyno’r dull trin cyflymach hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol. Mae’r dull newydd yn caniatáu i gleifion dreulio llai o amser yn yr ysbyty, gan eu rhyddhau i ddychwelyd i’w gweithgareddau dyddiol yn gynt. I’r staff, mae’n rhoi mwy o gapasiti i drin cleifion ychwanegol, gan leihau amseroedd aros ar gyfer triniaethau hanfodol. 

Dywedodd Dr Owen Pearson, Niwrolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Treforys:

“O’n safbwynt ni, mae’n golygu y gallwn ni drin mwy o bobl bob dydd. Gallwn hefyd gwtogi’r amser y mae cleifion yn aros am driniaeth. Gorau po gyflymaf y gallwn drin pobl.

“Mae’r math hwn o driniaeth yn rhoi’r cyfle gorau i gleifion fod yn sefydlog a pharhau i fyw eu bywydau. Mae’r cyffur yn un o’r mathau mwyaf effeithiol o driniaeth a gall leihau’r risg y bydd cleifion yn llithro’n ôl dros 80 y cant.” 

Dywedodd Alexandra Strong, Rheolwr Uned Niwroleg Ddydd Jill Rowe:

“Roedd yn gyffrous cael y claf cyntaf yn y DU yn yr uned. Bydd y dull newydd yn golygu llai o amser yn yr ysbyty i gleifion a bydd yn caniatáu i ni fod yn fwy hyblyg a darparu triniaeth yn gyflymach o’r adeg atgyfeirio.

“Mae’n newid cyffrous i’n cleifion sydd wedi cael arllwysiadau ocrelizumab yn yr uned, a byddan nhw i gyd hefyd, ymhen amser, yn cael cynnig i newid i’r pigiad dan y croen.”

I gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth MS drawsnewidiol hon, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, neu cysylltwch â’r Uwch Swyddog Cyfathrebu, Christie Banon drwy anfon e-bost at Christie.Bannon@wales.nhs.uk.