Bydd cwmni gweithgynhyrchu o Gymru, sydd â’i fryd ar fynd i'r afael â phroblem gwastraff cyfarpar diogelu personol (PPE) cynyddol y byd, yn ehangu ei bresenoldeb byd-eang ar ôl sicrhau ei gytundebau allforio cyntaf yn Awstralia a Chanada.
Bydd cwmni gweithgynhyrchu o Gymru, sydd â’i fryd ar fynd i'r afael â phroblem gwastraff cyfarpar diogelu personol (PPE) cynyddol y byd, yn ehangu ei bresenoldeb byd-eang ar ôl sicrhau ei gytundebau allforio cyntaf yn Awstralia a Chanada.
Mae Thermal Compaction Group (TCG) o Gaerdydd yn arbenigo mewn cynhyrchu technoleg arloesol a ddefnyddir i ailgylchu cyfarpar diogelu personol plastig tafladwy, untro, gan gynnwys llenni a gorchuddion hambwrdd llawfeddygol, a mygydau wyneb o safon feddygol. Roedd y cwmni yn un o’r rhai cyntaf yn y byd i ddatblygu'r dechnoleg newydd ac mae wedi gweld diddordeb cynyddol yn ei atebion ailgylchu yn sgil y pandemig.
Yn gynharach eleni, dadorchuddiodd ei ddyfais batent 'Sterimelt', sy’n cywasgu’r polypropylen yn thermol ar 350°C ac yn ei ail-weithio fel ei fod yn addas i greu cynnyrch newydd. Yn dilyn llwyddiant cychwynnol yn y DU, gyda'r ddyfais yn cael ei chyflwyno i ymddiriedolaethau ysbytai ledled Cymru a Lloegr, mae TCG bellach yn ystyried ehangu i farchnadoedd rhyngwladol.
Mae'r cwmni newydd lofnodi cytundebau i allforio'r Sterimelt i ddiwydiannau blaenllaw yn Awstralia a Chanada, gan gytuno ar gontractau i gyflenwi dros 100 o'r dyfeisiau i gwmni rheoli gwastraff Awstralia, 180 Waste Group, yn ogystal ag Alternative Recycling yn Vancouver, ac Advanced Extraction Systems, sydd wedi'u lleoli ar Ynys y Tywysog Edward. Bydd y cwmnïau, sef cleientiaid cyntaf TCG y tu allan i'r DU, yn dosbarthu'r cynnyrch ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn y ddau ranbarth.
Mae ymchwil yn amcangyfrif, ers dechrau'r achosion o Covid-19 a ddechreuodd y llynedd, fod dros 129 biliwn o fygydau wyneb yn cael eu defnyddio dros y byd bob mis, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u gwneud o blastig untro, sy’n golygu bod swm sylweddol o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae TCG yn hyderus y gallai ei ddyfais helpu i fynd i'r afael â'r broblem fyd-eang hon a chwarae rhan allweddol wrth helpu gwledydd ledled y byd i leihau eu gwastraff cyfarpar diogelu personol.
Yn dilyn ei gytundebau cychwynnol yn Awstralia a Chanada, mae'r cwmni bellach yn bwriadu ehangu ei sylfaen cleientiaid rhyngwladol ymhellach, gyda chynlluniau i gynnwys Affrica a datblygu ei farchnadoedd Ewropeaidd.
Meddai Mathew Rapson, Rheolwr Gyfarwyddwr Thermal Compaction Group:
"Mae gwastraff PPE yn broblem fyd-eang a sicrhau'r partneriaethau rhyngwladol newydd yma yw'r cam cyntaf tuag at gyflawni ein nod o atal cymaint o blastig â phosibl rhag cael eu llosgi, mynd i safleoedd tirlenwi neu gyrraedd ein cefnforoedd a'n hafonydd. Wrth gwrs, mae cyfarpar diogelu personol yn dal i chwarae rhan hanfodol i amddiffyn pobl yn ystod y pandemig, ond mae'n hanfodol bod y cynhyrchion yma’n cael eu defnyddio'n gynaliadwy.
Fel arloeswr a gwneuthurwr, rydym yn gweithio'n barhaus ar ddatblygiadau newydd a ffyrdd o gynnig atebion i’r broblem gwastraff byd-eang sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Bydd allforio ein hoffer yn fodd i gynyddu’r broses o adfer plastig untro ledled y byd a thrwy hynny, helpu'r blaned, gan fabwysiadu atebion 'adfer adnoddau' ar gyfer y byd.”
Wrth sôn am lwyddiant ac arloesedd byd-eang y TCG, meddai Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Mae'r dechnoleg a grëwyd gan TCG yn torri tir newydd, ac rydym yn falch o rannu enghraifft arall o'r arloesedd a'r ymroddiad gwych rydym yn dyst iddo gan y diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Mae'r ymateb byd-eang a'r nifer sy'n manteisio ar y dechnoleg hon a wnaed yng Nghymru yn anhygoel, a gobeithio y gwelwn ni TCG yn parhau i dyfu a chynnig atebion arloesol newydd i fynd i'r afael â'r gwastraff torfol a gynhyrchir yn sgil y pandemig a mynd i'r afael â'r argyfwng amgylcheddol parhaus."
Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru:
"Fel llywodraeth, rydym am adeiladu economi cryfach a gwyrddach yma yng Nghymru. Yn ein rhaglen lywodraethu bum mlynedd uchelgeisiol, mae gennym ffocws clir ar gynaliadwyedd a datblygu diwydiannau'r dyfodol. Felly mae'n wych gweld busnes o Gymru fel TCG yn dechrau allforio ei offer ailgylchu, a allai helpu i ddatrys problem gwastraff byd-eang go iawn sydd ar gynnydd o ganlyniad i'r pandemig.”
Cwmni o Gymru yn canfod ateb i broblem wastraff fyd-eang cyfarpar diogelu personol
Yn ddiweddar bu TCG a Hardshell gymryd rhan yn ein Straeon Arloesi, dewch o hyd i fwy am eu ateb i broblem wastraff fyd-eang yma.
Dewch o hyd i fwy am eu partneriaeth yma:
Dywedwch wrthym am eich arloesi!
Os oes gennych brosiect neu syniad arloesol yn awyddus i godi eich rhaglen waith, dywedwch fwy wrthym amdano drwy ein Ffurflen Ymholiad Arloesi.