Sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r prosiect
Cafodd y prosiect hwn ei ddechrau a’i arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o’r dechrau, drwy ein gwaith yn mynd ati i chwilio am atebion newydd ac arloesol i gefnogi darpariaeth iechyd a gofal yng Nghymru. Ar ôl ymchwilio ac ymgysylltu â darparwyr PainChek, cysylltodd Arweinydd ein Prosiect ag awdurdodau lleol a darparwyr cyllid i fesur diddordeb mewn prosiect gwerthuso posibl. Yn dilyn y cytundeb cyllido gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, rydyn ni wedi arwain y gwerthusiad, gan ymgysylltu â chartrefi gofal a PainChek i oruchwylio’r gwaith o lansio a chyflwyno rhaglenni trwyddedu a hyfforddi.
Byddwn yn gweithio gyda’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru, a fydd yn cynnal gwerthusiad annibynnol o’r dechnoleg, a’r effaith y mae’n ei chael mewn sefyllfa yng Nghymru.
Beth nesaf?
O ystyried yr ymatebion cadarnhaol cynnar o gartrefi gofal i’r gwerthusiad cyntaf hwn, a’r dystiolaeth y mae PainChek yn ei chasglu o weithrediadau byd-eang eraill, mae tîm y prosiect yn gadarnhaol am y manteision posibl y gallai’r adnodd hwn eu cynnig i Gymru. Rydyn ni’n aros am ganlyniadau’r gwerthusiad, ac os yw’r dystiolaeth yn ddigon cryf, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eisoes yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch rhoi’r adnodd ar waith ledled y wlad.
Yng Ngogledd Cymru, cytunwyd ar werthusiad arall a ariennir hefyd, gan ganolbwyntio ar wasanaethau anabledd dysgu. Bydd hyn yn casglu tystiolaeth ar ddefnyddio PainChek ar gyfer pobl ag anabledd dysgu sy’n byw mewn gwasanaethau byw â chymorth.
Cysylltu â ni
Rydyn ni yma i helpu i sbarduno trawsnewid ar draws y system! Os ydych chi’n awyddus i gael gafael ar gymorth tebyg i’r hyn a amlinellir yn yr astudiaeth achos hon, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Cyflwynwch eich ymholiad heddiw drwy ein gwefan.