Gall prosiect Cymorth Cydweithio Gorllewin Cymru gynnig amrywiaeth o gymorth yn rhad ac am ddim i sefydliadau yn Sir Gâr, yn ogystal â darparu mynediad at ystod o offer labordy drwy ein Technolegydd Arloesi, sydd wedi’i ariannu’n llawn, ac ymchwil desg drwy Swyddogion Arloesi. Amlinellir rhagor o fanylion am y cynnig hwn yn nodau’r prosiect.
Mae Prifysgol Abertawe, Sefydliad Tritech, Llesiant Delta Wellbeing, a Phentre Awel, gyda’i gilydd, yn cynnig cyfle i fusnesau iechyd a gwyddorau bywyd, elusennau, mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid yn Sir Gâr ddatblygu eu prosesau a’u gwasanaethau cynnyrch drwy amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu.
Nodau’r Prosiect:
Nod y prosiect yw cefnogi sefydliadau iechyd a gwyddorau bywyd drwy ddarparu:
- Astudiaethau Dichonolrwydd ac Adolygiadau a gynhaliwyd gan staff ymchwil pwrpasol;
- Cyfleoedd i ddatblygu cydweithrediadau newydd gyda darparwyr Gofal Iechyd, Academyddion a Diwydiant;
- Cymorth i dod o hyd i grantiau a chymorth ysgrifennu;
- Cyngor ac arweiniad pwrpasol (gan gynnwys cyngor gwyddonol, rheoli busnes, a chyngor IP a phatentau);
- Mynediad at ddigwyddiadau a seminarau am ddim;
- Cyfleoedd i rwydweithio.
Cyllid ar gyfer y prosiect:
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ar y cyd â Chyngor Sir Gâr a chronfa codi’r gwastad Llywodraeth y DU.
Dylai busnesau, elusennau, mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid yn Sir Gâr gysylltu â ni yn htc.accelerate@swansea.ac.uk.