Nod y fenter dan arweiniad Prifysgol Abertawe yw gwella gofal methiant y galon ledled Cymru drwy ddod ag ymchwilwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a llunwyr polisi at ei gilydd. Mae'r prosiect yn gwerthuso arferion, yn casglu gwybodaeth, ac yn nodi bylchau mewn ymchwil.

Nod y cynllun arloesol hwn yw gwella gofal methiant y galon ledled Cymru. Dan arweiniad Dr Emma Rees a Dr Aimee Drane ym Mhrifysgol Abertawe, a gyda chefnogaeth grant NIHR am flwyddyn, daw'r prosiect â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, cleifion a llunwyr polisi ynghyd. Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, integreiddio data, a chydweithio arbenigol, bydd y prosiect yn creu consensws cenedlaethol ar arferion gorau ac yn diffinio blaenoriaethau ymchwil i drawsnewid gofal cleifion.
Nodau'r prosiect
Cafodd y prosiect ei ddechrau i fynd i’r afael ag anghysondebau mewn gofal methiant y galon ledled Cymru. Drwy asesu arferion gofal cyfredol, nodi ymyriadau llwyddiannus, a darganfod cyfleoedd ymchwil, y nod yw adeiladu sylfaen gref sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygiadau arloesol yn y dyfodol. Mae hefyd yn ceisio hybu gallu ymchwil rhyngddisgyblaethol a meithrin trefniadau cydweithio ar draws byrddau iechyd Cymru, gan sicrhau triniaeth methiant y galon sy'n fwy gwybodus ac effeithiol i gleifion.
Cychwyn y prosiect
Dechreuodd y prosiect gyda chymorth grant NIHR am flwyddyn. Roedd yr ymdrechion cychwynnol yn canolbwyntio ar ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd, gan gynnwys yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru, er mwyn rhannu gwybodaeth yn ystod digwyddiad trafod. Roedd y digwyddiad hwn yn ganolog i feithrin cysylltiadau, deall arferion presennol, a nodi bylchau mewn gofal. Casglwyd mewnbwn hefyd gan wasanaethau methiant y galon arweiniol yn Lloegr er mwyn cyflwyno arferion gorau. Yn dilyn hyn, dechreuodd y gwaith o gydweithio ag Uned Treialon Abertawe, gan baratoi ar gyfer adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad i fod yn sail i ddull seiliedig ar dystiolaeth y prosiect.
Heriau'r prosiect
Her fawr oedd y manylion cyfyngedig yn y data iechyd presennol, a oedd yn rhwystro’r gallu i ddadansoddi’r math a difrifoldeb methiant y galon. I fynd i’r afael â hyn, aeth y tîm ati i weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Banc Data SAIL o fewn y Rhwydwaith Cenedlaethol dros Arloesi ym maes Chwaraeon ac Iechyd i brofi dichonoldeb echdynnu mesuriadau sganio’r galon a’u cysylltu â data iechyd ehangach. Roedd hyn yn golygu cydweithio technegol a chydlynu rhwng clinigwyr a gwyddonwyr data. Amlygodd y broses yr angen am safonau casglu data gwell a dysgodd y tîm wersi gwerthfawr am gyfuno data iechyd cymhleth at ddibenion ymchwil.
Canlyniadau'r prosiect
Llwyddodd y prosiect i ddod â rhanddeiliaid amrywiol at ei gilydd i werthuso a gwella gofal methiant y galon ledled Cymru. Drwy’r digwyddiad trafod, roedd byrddau iechyd Cymru wedi rhannu strategaethau, heriau a datblygiadau arloesol, gan feithrin cyd-ddealltwriaeth o’r dirwedd bresennol. Arweiniodd y bartneriaeth gydag Uned Treialon Abertawe, hefyd o fewn y Rhwydwaith Cenedlaethol dros Arloesi ym maes Chwaraeon ac Iechyd, at adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad, gan sefydlu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer ymyriadau methiant y galon.
Yn arwyddocaol, gwnaeth y tîm gynnydd o ran cysylltu data sganio’r galon â Banc Data SAIL, gan baratoi’r ffordd ar gyfer ymchwil fanylach ar lefel y boblogaeth. Os caiff ei ddatblygu’n llawn, gallai’r model hwn drawsnewid sut mae methiant y galon yn cael ei fonitro a’i astudio, gan wella cywirdeb ym maes ymchwil ac, yn y pen draw, gofal cleifion.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y tîm yn cyhoeddi dogfen gonsensws sy’n amlinellu arferion gorau a blaenoriaethau ymchwil yn y dyfodol. Bydd yr adnodd hwn yn arwain ymchwil gydweithredol bellach ac yn cefnogi ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau mawr. Yn gyffredinol, mae’r fenter wedi cryfhau capasiti ymchwil, gwella galluoedd data, ac wedi gosod y sylfeini ar gyfer gofal methiant y galon mwy integredig ac effeithiol yng Nghymru.
Ariannu'r prosiect
Ariannwyd y prosiect gyda grant blwyddyn gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Tîm y prosiect a phartneriaid
Arweiniwyd y prosiect gan Dr Emma Rees a Dr Aimee Drane o Brifysgol Abertawe. Roedd y prif bartneriaid yn cynnwys:
- Uned Treialon Abertawe – adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad
- Dr Benjamin Dicken, Cardiolegydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – integreiddio data clinigol
- Dr Libby Ellins, Arweinydd Gwyddor Data, Y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol – cysylltu data
- Holl fyrddau iechyd Cymru – ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Gwasanaethau arweiniol o Loegr – rhannu arferion gorau
Camau nesaf
Y cam olaf fydd cyhoeddi dogfen gonsensws genedlaethol sy’n amlinellu arferion gorau a meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymchwil methiant y galon yng Nghymru. Bydd hyn yn sail ar gyfer bidiau cyllid ac astudiaethau cydweithredol yn y dyfodol. Mae’r tîm hefyd yn bwriadu mireinio’r model ar gyfer echdynnu a chysylltu data, gyda’r nod o’i ehangu i fyrddau iechyd eraill ledled Cymru. Gallai camau yn y dyfodol gynnwys treialu ymyriadau newydd yn seiliedig ar fylchau a nodwyd a gwneud cais am gyllid ar raddfa fwy i roi newidiadau wedi’u sbarduno gan ymchwil ar waith mewn ymarfer clinigol.